Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr Cymru dan 20, wedi cyhoeddi ei dîm i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad dan 20 ym Mharc yr Arfau Caerdydd nos yfory (nos Fercher, Gorffennaf 7).

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 8 o’r gloch.

Mae anafiadau i’r prop pen rhydd Garyn Phillips a Dafydd Jenkins yn yr ail reng yn golygu bod Rhys Thomas yn dechrau am y tro cyntaf fel clo, tra bod Theo Bevacqua yn dechrau fel prop.

Mae Joe Peard, clo’r Dreigiau, yn dychwelyd i’r tîm i ffurfio partneriaeth newydd sbon yn yr ail reng gyda Rhys Thomas.

Ymhlith yr olwyr, mae’r canolwr Ioan Evans a’r maswr Sam Costelow yn dechrau.

Mae Cymru’n gobeithio rhoi dwy golled yn olynol yn erbyn Iwerddon a Ffrainc y tu ôl iddyn nhw, ond mae Ioan Cunningham yn ymwybodol o’r her sydd o’u blaenau hefyd.

“Maen nhw’n ddynion corfforol, roedden nhw’n gorfforol iawn yn erbyn Iwerddon ac mae Iwerddon yn dîm corfforol, maen nhw wedi’u hyfforddi’n dda iawn ac wedi’u trefnu’n dda,” meddai.

“Maen nhw’n gyrru yn gryf o linellau felly bydd yn rhaid i ni fod yn ddisgybledig, allwn ni ddim rhoi cosbau i Loegr hanner ffordd i fyny’r cae oherwydd byddan nhw’n cicio i’r gornel a bydd hi’n brynhawn caled o amddiffyn.”

Tîm Cymru

Jacob Beetham (Gleision Caerdydd), Daniel John (Exeter Chiefs), Ioan Evans (Pontypridd), Joe Hawkins (Gweilch), Tom Florence (Gweilch), Sam Costelow (Scarlets), Ethan Lloyd (Gleision Caerdydd); Theo Bevacqua (Gleision Caerdydd), Oli Burrows (Exeter Chiefs), Lewys Jones (Nevers), Joe Peard (Dreigiau), Rhys Thomas (Gweilch), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), Alex Mann (Gleision Caerdydd – capten), Carwyn Tuipulotu (Scarlets).

Eilyddion

Efan Daniel (Gleision Caerdydd), Cameron Jones (Gweilch), Nathan Evans (Gleision Caerdydd), James Fender (Gweilch), Tristan Davies (Gweilch), Harri Williams (Scarlets), Will Reed (Dreigiau), Carrick McDonough (Dreigiau), Morgan Richards (Dreigiau/Pontypridd), Eddie James (Scarlets), Evan Lloyd (Gleision Caerdydd)