Mae disgwyl i Gareth Bale chwarae dros Gymru ar ôl ymddeol o bêl-droed i’w glwb.

Yn ôl adroddiadau, ei fwriad yw cynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd os ydyn nhw’n cymhwyso, ond bydd e eisoes wedi camu i ffwrdd o bêl-droed i’w glwb erbyn y twrnament.

Mae disgwyl iddo fe ddychwelyd i Real Madrid ar ddiwedd y mis ar ôl bod yn arwain Cymru yn yr Ewros, lle cyrhaeddon nhw’r 16 olaf.

Mae ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb yn Real Madrid, ac mae disgwyl iddo aros yno am 12 mis arall ar ôl iddyn nhw benodi Carlo Ancelotti yn rheolwr i olynu’r Ffrancwr Zinedine Zidane.

Prin oedd cyfleoedd y Cymro o dan reolaeth Zidane.

Ac mae’n debyg bod Bale wedi dweud na fydd e’n chwilio am glwb newydd ar ôl gadael Real Madrid ar ddiwedd ei gytundeb, ond y bydd e ar gael i Gymru tan y gaeaf, pan fydd Cwpan y Byd yn Qatar.

Mae gan Gymru driphwynt o’u dwy gêm gyntaf ar ôl curo’r Weriniaeth Tsiec, tra bod ganddyn nhw gemau rhagbrofol i ddod yn erbyn Belarws ac Estonia.

Bydd y timau ar frig y grwpiau rhagbrofol yn cymhwyso’n awtomatig, gyda’r deg tîm yn yr ail safle’n mynd i’r gemau ail gyfle, ynghyd â’r ddau dîm gorau yng Nghynghrair y Cenhedloedd nad ydyn nhw’n gorffen ar frig eu grŵp cymhwyso yng Nghwpan y Byd.

Mae gan Gareth Bale 96 o gapiau, ac mae e wedi sgorio 33 o goliau ac ar lefel y clybiau, mae e wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith.

Mae e eisoes wedi dweud y bydd e’n parhau i gynrychioli Cymru hyd nes y bydd e’n ymddeol o bêl-droed yn gyfangwbl.