Daeth cadarnhad erbyn hyn y bydd Leigh Halfpenny allan o gemau rygbi Cymru dros yr haf, wrth iddo fe gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Digwyddodd yr anaf o fewn dwy funud i’r gic gyntaf wrth i Gymru herio Canada yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Gorffennaf 1).

Roedd y cefnwr 32 oed yn ennill ei ganfed cap rhyngwladol – a chap rhif 96 dros Gymru – wrth i dorfeydd gael dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig Covid-19.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, bydd angen asesiad pellach i wybod am ba hyd y bydd e allan ar ôl y driniaeth.

Mae Aneurin Owen o Gasnewydd, sy’n gyn-aelod o garfan dan 20 Cymru, wedi bod yn ymarfer gyda charfan Cymru ac mae e wedi’i ychwanegu’n swyddogol erbyn hyn.

Mae gan Gymru ddwy gêm i ddod yn erbyn yr Ariannin.

Buddugoliaeth swmpus i dîm rygbi Cymru yn erbyn Canada

68-12 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, ond siom i Leigh Halfpenny wrth iddo fe ddioddef anaf wrth ennill ei ganfed cap

Canfed cap rhyngwladol i Leigh Halfpenny wrth i Gymru herio Canada

Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr un gwrthwynebwyr 13 o flynyddoedd yn ôl