Gyda ffeinal Ewro 2020 i’w chynnal yn Llundain nos Sul, beth sydd ar feddyliau pawb ydy: ‘A yw pêl-droed yn mynd adref?’

Mae’r posibilrwydd yna’n bownd o lenwi cefnogwyr Lloegr efo hapusrwydd wrth gwrs, ond fe fydd yn gwneud i eraill droi a throsi yn eu gwlâu wrth fynd i gysgu.

Bydd yr ornest rhwng yr Eidal, a drechodd Sbaen mewn cystadleuaeth ciciau o’r smotyn yn y rownd gynderfynol, ac ein cymdogion Lloegr, wedi ymdrech hwyr Harry Kane o 12 llath yn erbyn Denmarc.

Dyma’r tro cyntaf ers 2012 i’r Eidal fod mewn rownd derfynol, tra bod Lloegr heb fod ymysg y ddau olaf ers eu buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd gartref yn Wembley yn 1966.

Yma yng Nghymru, mae’r gêm yn sicr o hollti barn cefnogwyr, ond mae rhai sydd â chysylltiadau efo’r Eidal wedi cael dewis hawdd o ran pwy i gefnogi nos Sul yn Wembley.

Mae golwg360 wedi bod yn holi rhai ohonyn nhw.

‘Yr Eidal yn dîm gyda’r gorau yn y byd”

Un sydd yn sicr o gefnogi’r Eidal nos Sul yw’r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone.

Daeth ei dad yn wreiddiol o’r Eidal, gan setlo yng Nghymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

O ran y gêm, mae Toni’n ffyddiog bod gan yr Eidalwyr ddigon i atal y Saeson rhag ennill.

“Dw i’n credu bod yr Eidal yn dîm gyda’r gorau yn y byd, ac mae gyda nhw chwaraewyr a all sgorio gôl o unrhyw le.

“Y cwestiwn mawr ydy – a ydyn nhw’n gallu cadw ymosodwyr Lloegr yn dawel – ac efallai os eith hi i amser ychwanegol neu giciau o’r smotyn, dw i’n credu ‘falle neith yr Eidal ennill yn fan’na.

“Yn dechnegol, mae sgiliau chwaraewyr yr Eidal yn uwch na Lloegr, ond mae Lloegr yn dîm da.

“Dw i’n credu bod yr Eidal yn chwarae gêm fwy creadigol a chyfrwys na beth ry’n ni wedi gweld hyd yn hyn o Loegr.”

‘Hollol annheg’

Bydd y ffeinal yn Wembley yn gêm gartref i Loegr i bob pwrpas.

“Mae mantais lleoliad yn Wembley’n fantais enfawr,” meddai Toni.

“‘Falle ar ddiwedd y dydd, na hwnna wneith y gwahaniaeth.

“Dyle fe ddim bod wedi digwydd fel hyn – mae’r ffordd mae [UEFA] wedi trefnu’r gemau wedi rhoi mantais i rai timau fwy na’r lleill.

“Dyw hi ddim wedi bod yn gystadleuaeth gyfartal.

“Yn y dyfodol, gobeithio bydd hyn ddim yn digwydd eto achos mae’n hollol annheg.”

”Rydan ni reit hapus bod o ar ddydd Sul i ni gael gwatsiad o go-iawn”

Cwpwl fydd yn cefnogi’r Eidal nos Sul fydd Jane Walsh ac Alessio Luci o Ynys Môn.

Daw Alessio’n wreiddiol o’r Eidal, ac mae Jane wedi byw yno am sawl blwyddyn, a’r ddau bellach yn rhedeg bwyty Eidalaidd ym Mhorthaethwy.

“Fyddwn i ar gau dydd Sul, felly gawn ni watsiad y gêm adref,” eglura Jane.

“Rydan ni’n reit hapus bod o ar ddydd Sul i ni gael gwatsiad o go-iawn, yn hytrach na jest gwatsiad o ar sgrin fach yn y gegin, achos pan mae’r gemau eraill wedi bod, rydan ni wedi bod yn brysur.

“Mae pob dim wedi setio fyny yn y lownj i ni watsiad y gêm efo’n gilydd.

“Ac ella gawn ni gwrw Eidalaidd neu win hefyd!”

Pan wynebodd Cymru’r Eidal ar ddechrau’r twrnamaint, roedd y cwpwl sy’n rhedeg caffi +39 yn cefnogi dwy wlad wahanol!

“Wel, roeddwn i’n cefnogi Cymru, ac oedd Alessio’n cefnogi’r Eidal,” cofia Jane.

“Roedd y plant o hyd am Yr Eidal – maen nhw’n teimlo bod nhw’n gorfod efo pêl-droed achos mai honno ydy gêm Alessio.

“Mae o’n Interista [cefnogwr Inter Milan] mawr, ac mae bob un gêm arno efo fo yn y gegin iddo fo gael gwrando a chael gwybod be’ sy’n mynd ymlaen.”

Wal goch yn troi’n las?

Wrth ystyried bydd nifer o gefnogwyr Cymru’n cefnogi’r Azzurri fel Toni Schiavone, mae’n esbonio pam bod hynny’n “naturiol”.

“Rwy’n disgwyl y bydd hynny oherwydd bod yna lot o bethau sy’n gyffredin rhwng Cymru a’r Eidal o ran diwylliant, cymeriad pobl ac eu hunaniaeth – mae’r cysylltiad yn un cryf iawn,” meddai.

“Yn naturiol i ni fel Cymry, so ni ddim yn teimlo rheidrwydd i gefnogi Lloegr. Os oes rhai yn cefnogi Lloegr, wel mae hynny’n iawn.

“Ni’n cefnogi pwy mae’r galon yn dweud wrthon ni.”

“Hurt” cefnogi Lloegr

Roedd y cyflwynydd Gary Lineker wedi galw ar y Cymry i gefnogi Lloegr yn y ffeinal, gan ddenu ymateb cymysg.

Mae Tommie Collins o Borthmadog yn un o gefnogwyr selocaf Cymru oddi cartref ers blynyddoedd, ac yn dweud ei bod hi yn   “hurt” disgwyl i’r Cymry gefnogi Lloegr.

“Dw i’n meddwl bod o’n hurt bod yna rai’n cefnogi nhw achos Cymru ydan ni ynde.

“I ddweud y gwir, fyswn ni ddim yn cefnogi’r Alban chwaith, achos dw i’n cofio Joe Jordan,” meddai Tommie, gan gyfeirio at gôl ddadleuol yr Albanwyr yn erbyn Cymru yn 1977, wnaeth olygu bod Cymru ddim yn mynd i Gwpan y Byd 1978.

“Pam ddylsan ni gefnogi gwlad arall? A lle fysa’r gêm heb y rivalry?

A beth mae Tommie am ei wneud os fydd Lloegr yn llwyddo i ennill yn y ffeinal?

“Gadael y wlad!”