Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, yn dweud fod yr asgellwr Owen Lane wrth ei fodd yn cael dychwelyd i dîm Cymru.
Bydd Cymru yn herio’r Ariannin yn y Stadiwm Cenedlaethol ddydd Sadwrn (10 Gorffennaf), gyda’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C am un o’r gloch.
Dyma fydd y tro cyntaf i Owen Lane, 23 oed, chwarae i Gymru ers dechrau gêm y trydydd safle yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan y Byd 2019.
Colli oedd hanes Cymru’r diwrnod hwnnw.
Mae’n un o dri newid i’r tîm wnaeth guro Canada 68-12 ddydd Sadwrn diwethaf (3 Gorffennaf), gyda’r cefnwr Hallam Amos a’r mewnwr Kieran Hardy hefyd yn dod i mewn i’r tîm.
“Mae Owen wedi hyfforddi’n dda iawn,” meddai Wayne Pivac.
“O ran ei anafiadau, nid yw wedi cael rhediad cyson, felly fe wnaethom beidio ei chwarae yn erbyn Canada er mwyn canolbwyntio ar weithio’n galed ar ei lefelau ffitrwydd.
“Mae wedi gweithio’n galed iawn dros y pythefnos a hanner diwethaf, felly rydym yn rhoi cyfle iddo y mae’n mynd i’w fwynhau.
“Gyda’r anafiadau y mae wedi’u cael, mae’n edrych ymlaen yn fawr at hyn a gobeithio y bydd pethau’n mynd yn dda iddo.”
“Adeiladu tuag at Gwpan y Byd”
Nid yw’r Pumas wedi curo Cymru ers naw mlynedd, gan golli’r pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y Cochion.
Ond maen nhw’n teithio i Gaerdydd wedi mwynhau 2020 cofiadwy, lle llwyddon nhw i drechu Seland Newydd yn ogystal â chael dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstralia.
“Mae’r Ariannin yn wrthwynebwyr perffaith i ni’r penwythnos hwn a dyma’r union brawf rydyn ni ei eisiau ar gyfer y criw yma o chwaraewyr,” meddai Wayne Pivac.
“Byddwn yn cael ein profi yn y blaen, a bydd yn gêm fwy corfforol nag y mae rhai o’r chwaraewyr hyn wedi’i brofi o’r blaen, ond bydd hynny’n ateb llawer o gwestiynau i ni wrth i ni adeiladu tuag at Gwpan y Byd.”
Cymru – y 15 sy’n cychwyn yr ornest:
H Amos (Caerdydd); J Holmes (Dreigiau), W Halaholo (Caerdydd), J Davies (Scarlets, capten), O Lane (Caerdydd); C Sheedy (Bryste), K Hardy (Scarlets); N Smith (Gweilch), E Dee (Dreigiau), D Lewis (Caerdydd), B Carter (Dreigiau), W Rowlands (Dreigiau), R Moriarty (Dreigiau), J Botham (Caerdydd), A Wainwright (Dreigiau).
Replacements: R Elias (Scarlets), G Thomas (Gweilch), L Brown (Dreigiau), J Turnbull (Caerdydd), T Basham (Dreigiau), T Williams (Caerdydd), J Evans (Caerdydd), N Tompkins (Saraseniaid).