Mae dau chwaraewr o garfan y Llewod, sydd heb eu henwi, yn wynebu cyfnod o hunanynysu, ar ôl i aelod o’r tîm hyfforddi brofi’n bositif am Covid-19.

Mae dau aelod o staff arall hefyd yn gorfod hunanynysu yng ngwesty’r tîm.

Daeth y canlyniad positif o brawf llif unffordd a oedd yn rhan o’r rhaglen sgrinio ddydd Mercher.

Bydd gêm y Llewod heno yn erbyn y Sharks yn mynd yn ei blaen cyn belled â bod profion PCR yn dychwelyd canlyniadau negatif yn hwyrach ymlaen heddiw.

Mae gêm brawf De Affrica yn erbyn Georgia ddydd Gwener eisoes wedi ei chanslo oherwydd achosion positif yn y ddwy garfan.

Ar hyn o bryd, mae gêm gyntaf y Llewod yn erbyn De Affrica yn digwydd ar Orffennaf 24.

“Wedi dilyn pob rhagofal angenrheidiol”

Dywed rheolwr gyfarwyddwr y Llewod, Ben Calveley:

“Rydyn ni wedi dilyn pob rhagofal angenrheidiol ers dechrau’r daith, a oedd yn cynnwys profi cyson a chynllunio trwyadl yn erbyn Covid-19,” medd mewn datganiad.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau iechyd a diogelwch holl aelodau’r daith, a dyna pam y gwnaethon ni ynysu’r chwaraewyr a’r staff yn syth ar ôl derbyn y newyddion o’r profion positif.

“Yn dilyn hynny, mae pawb wedi derbyn prawf llif unffordd a PCR. Mae’r Grwp Cynghori Meddygol yn disgwyl canlyniadau’r profion hynny er mwyn gwneud penderfyniad ar y gêm heno.

“Mae’r pum unigolyn sydd wedi eu heffeithio yn cael eu monitro yn ystod y cyfnod ynysu ac yn derbyn y gofal iechyd gorau posib wrth inni ddisgwyl canlyniadau eu prawf.”

Pen y daith?

Er bod y gêm heno yn parhau i fynd yn ei blaen ar amser ychydig yn hwyrach, mae hyn yn newyddion drwg i’r daith yn ei chyfanrwydd.

Mae perygl i Covid-19 achosi newidiadau mawr i’r amserlen, a bydd amheuon eto am y gallu i barhau a’r daith.

Yn wahanol i Brydain, mae De Affrica yn brwydro ton arall o Covid-19, sydd wedi achosi trydydd cyfnod clo yno.

Mae’r cyfyngiadau bellach yn cynnwys cyrffyw, gwaharddiad alcohol, cyfyngiadau teithio a chau ysgolion.