Mae clo Cymru, Will Rowlands, yn awchu am yr her o chwarae’r Ariannin dros ddwy gêm brawf sydd i ddod.

Dydy Cymru heb golli i’r Ariannin ers pedair gêm, ond enillodd y Pumas gêm yn erbyn Seland Newydd a chael dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstralia llynedd.

Maent yn cyrraedd Caerdydd brynhawn Sadwrn am gyfres fer sydd am wthio tîm dibrofiad Cymru i’r eithaf.

Gyda rhai o’r sêr ar ddyletswydd gyda’r Llewod ac anafiadau, mae Wayne Pivac wedi gorfod gwneud sawl newid i’r garfan, ond roedd perfformiad addawol Cymru yn eu buddugoliaeth o 68-12 dros Ganada ddydd Sadwrn diwethaf yn arwydd da.

Rhoddodd Pivac gap cyntaf i bum chwaraewr yn y gêm honno, gydag un ohonynt Taine Basham yn sgorio dwy gais.

Roedd partneriaeth Rowlands gyda Ben Carter yn yr ail reng yn ddylanwad cryf ar berfformiad Cymru.

“Roedd Canada yn gêm gyntaf berffaith inni fel grŵp eithaf gwahanol,” meddai Rowlands, sy’n ymuno â’r Dreigiau’r haf hwn.

“Roedd yn gêm baratoi wych, ond ro’n i wastad yn hoffi edrych ar y gemau ac yn falch o weld ein bod ni’n chwarae’r Ariannin ddwywaith.

“Dyma’r gemau prawf ’dw i eisiau chwarae ynddyn nhw i herio fy hun ac i ddangos beth ’dw i’n gallu ei wneud.

“Bydd yn brawf da iawn inni, ac rydyn ni’n gyffrous iawn o fynd benben â nhw.”

Ar Ben ei ddigon

Cafodd Rowlands ei gais cyntaf dros Gymru wrth iddyn nhw redeg yn wyllt yn erbyn Canada.

Gyda seren y gêm Ben Carter, sicrhaodd gyflenwad da o’r ail reng.

“Roedd yn wych chwarae gyda Ben – mae ganddo ben aeddfed am ddyn ugain oed.

“Deliodd gyda’r achlysur yn dda iawn a chwarae’n arbennig, felly ’dw i’n edrych ymlaen at chwarae mwy gydag o i Gymru ac i’r Dreigiau.

“Mae wedi gwneud yn dda a’n esiampl bod rhaid cymryd pob cyfle mewn chwaraeon, a pob canmoliaeth i Ben – fe wnaeth o hynny dros y penwythnos.

“Mae ganddo’r gallu i fynd yn bell yn y gêm.”

Bydd y gic gyntaf ddydd Sadwrn am un o’r gloch.