Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg a Sussex yn Hove wedi gorffen yn gyfartal, canlyniad sy’n sicrhau mai yn yr ail adran fydd Morgannwg yn niwedd y gystadleuaeth.

Tarodd Ben Brown, capten Sussex, ei ugeinfed canred dosbarth cyntaf, a chyrraedd y nod gydag ergyd chwech oddi ar fowlio Timm van der Gugten cyn cau’r batiad ar 263 am chwech a gosod nod o 275 i Forgannwg mewn 51 pelawd.

Cipiodd y troellwr Jack Carson dair wiced i Sussex wrth i Forgannwg orffen ar 154 am bump gyda’r ornest yn dod i ben.

Diwedd batiad Sussex

Ychwanegodd Ben Brown ac Ali Orr 100 at y cyfanwm cyn i David Lloyd daro coes Orr o flaen y wiced am 80 – roedd e wedi wynebu 193 o belenni gan daro deg pedwar.

Mae gan Orr, sy’n 19 oed, ddau hanner canred i’r sir erbyn hyn mewn dwy gêm.

Tarodd Timm van der Gugten goes Dan Ibrahim o flaen y wiced am 17 cyn i Brown a Beer ychwanegu 65 am y seithfed wiced mewn 11.1 o belawdau ar ôl cinio.

Cyrhaeddodd Brown ei ganred oddi ar 134 o belenni, gyda’r ail 50 yn dod oddi ar 53 o belenni, wrth iddo fe daro chwe phedwar.

Cipiodd van der Gugten dair wiced am 44.

Batiad Morgannwg

Gyda nod sylweddol i gwrso, collodd David Lloyd ei wiced wrth i Aaron Thomason ei ddal e yn y slip oddi ar fowlio Stuart Meaker am 17.

Fe wnaeth Carson waredu Colin Ingram, Billy Root a Kiran Carlson ar ôl te, gyda Will Beer yn gwaredu Joe Cooke i adael Morgannwg yn 131 am bump.

Arhosodd Andrew Salter (19) a Dan Douthwaite (14) wrth y llain am ddeg pelawd i sicrhau bod Morgannwg yn ennill 12 o bwyntiau ar ôl colli’r rhan fwyaf o’r batwyr cydnabyddedig.

Gall Morgannwg orffen yn bedwerydd yn y grŵp o hyd, gyda gêm yn erbyn Swydd Northampton i ddod ddydd Sul (Gorffennaf 11).

Ymateb

“Rydan ni’n mynd i fod yn yr ail adran, sy’n braf,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Rydan ni wedi dangos tipyn o gymeriad y tymor hwn, ac rydan ni’n gweithio’n galetach i fod yn fwy gwydn fel unigolion ac fel grŵp.

“Dydan ni ddim yn orffenedig eto ond dw i wrth fy modd y gallen ni orffen yn drydydd, o bosib, mewn grŵp oedd yn anodd, er ein bod ni rŵan yn wynebu pedair gêm anodd ar ddiwedd y tymor.”