Mae Morgannwg wedi dechrau’n gryf yn eu eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd, wrth i’r ymwelwyr orffen y diwrnod cyntaf ar 128 am bedair.

Ond roedd yn ddiwrnod byr wrth i’r glaw ddod ar ôl awr o’r chwarae yn sesiwn y prynhawn ar ôl i’r Iseldirwr Timm van der Gugten roi’r Saeson dan bwysau.

Cipiodd e dair wiced am 35 mewn 13 o belawdau, a hynny ar ôl i’r ymwelwyr alw’n gywir a dewis batio mewn amodau cymylog.

Dechreuodd Michael Neser a Michael Hogan yn gryf yn erbyn yr agorwyr Ricardo Vasconcelos ac Emilio Gay, ond van der Gugten gipiodd y wiced gyntaf wrth i Gay gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 22, a’r sgôr yn 40 am un.

Roedden nhw’n 55 am ddwy o fewn dim o dro wrth i Vasconcelos roi daliad i Kiran Carlson yn agos ar ochr y goes am 25 yn yr ugeinfed pelawd, gyda’r batiwr yn mynd heibio 700 o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn yn ystod ei fatiad.

Roedd yr ymwelwyr yn 81 am ddwy erbyn amser cinio, ond dim ond wyth pelen gymerodd hi i Forgannwg gipio’r drydedd wiced, wrth i Rob Keogh gael ei ddal yn y slip gan Billy Root oddi ar fowlio van der Gugten.

Cwympodd y bedwaredd wiced yn fuan wedyn, wrth i Neser daro coes Luke Procter o flaen y wiced am dri, a’r sgôr yn 94 am bedair.

Bydd adfywiad Swydd Northampton yn nwylo Will Thurston ar ddechrau’r ail ddiwrnod, ac mae e heb fod allan ar 36, a’i bartner Saif Zaib wrth y llain ar 18.

Morgannwg v Swydd Northampton (dydd Sul, Gorffennaf 11)

Mae Morgannwg eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr ail adran yn rhan ola’r Bencampwriaeth