Fe wnaeth Kiran Carlson a’r capten Chris Cooke dorri sawl record i dîm criced Morgannwg ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd, i’w rhoi nhw mewn sefyllfa gref i fynd am fuddugoliaeth annisgwyl ar y diwrnod olaf.
Ar ôl i gyfnodau o law ar y ddau ddiwrnod cyntaf wneud gêm gyfartal yn fwyaf tebygol, brwydrodd Cooke a Carlson i adeiladu partneriaeth bumed wiced ddi-guro o 307 wrth i Forgannwg orffen ar 462 am bedair – ar y blaen i’r ymwelwyr o 247 gyda chwe wiced batiad cyntaf yn weddill.
Roedd Morgannwg yn 155 am bedair pan ddaethon nhw at ei gilydd, ac fe aethon nhw yn eu blaenau i dorri’r record am y bartneriaeth pumed wiced orau i Forgannwg yn erbyn unrhyw sir – gan dorri record Maurice Robinson a Stan Montgomery yn erbyn Hampshire yn 1949.
Mae hefyd yn record am y bartneriaeth bumed wiced orau i unrhyw sir yn erbyn Swydd Northampton mewn gemau dosbarth cyntaf.
Mae Carlson heb fod allan ar 170 oddi ar 227 o belenni ar ôl taro 15 pedwar, a Cooke heb fod allan ar 133 oddi ar 208 o belenni ar ôl taro saith pedwar a dau chwech.
Mae’n golygu bod gan Forgannwg fantais o 247 gyda chwe wiced yn weddill o’u batiad cyntaf, ac mae’n debygol mai dim ond deg batiwr fydd gan yr ymwelwyr o ganlyniad i anaf Gareth Berg oedd wedi methu â batio yn y batiad cyntaf.
Manylion y dydd
Yn gynharach yn y dydd, adeiladodd Billy Root (45) a’r Awstraliad Marnus Labuschagne (77) bartneriaeth o 122 am y drydedd wiced.
Cyrhaeddodd Labuschagne ei hanner canred oddi ar 76 o belenni ar ôl taro wyth pedwar, ac fe gyrhaeddodd e’r nod a’r bartneriaeth o 100 gyda’i wythfed ergyd i’r ffin.
Ond fe gafodd ei fowlio gan Luke Procter am 77 wrth fethu ergyd syth, gyda Root hefyd yn cael ei fowlio yn yr un modd yn yr un belawd am 45.
Aeth Carlson a Cooke â’u tîm heibio i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr (215), gan adeiladu partneriaeth a blaenoriaeth swmpus wedyn.
Cyrhaeddodd Carlson ei hanner canred oddi ar 81 o belenni gyda saith pedwar, ac fe gafodd ei ollwng gan y troellwr Rob Keogh oddi ar ei fowlio’i hun ar ôl toriad am y glaw.
Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar 87 o belenni wrth i Forgannwg adael y cae amser te ar 295 am bedair.
Llwyddodd Carlson a Cooke i oroesi’r drydedd pêl newydd, wrth i Carlson gyrraedd ei drydydd canred y tymor hwn oddi ar 151 o belenni wrth daro pedwar oddi ar fowlio Procter ar ochr y goes.
Cafodd Cooke ei ollwng gan Simon Kerrigan yn sgwâr ar yr ochr agored ar 79 oddi ar fowlio Ben Sanderson, ac fe aeth y batiwr yn ei flaen i gyrraedd ei ganred oddi ar 186 o belenni gyda phedair ergyd i’r ffin.
Fe wnaeth Morgannwg orffen y dydd ar ôl sgorio dros 400 o rediadau mewn diwrnod, ac fe fyddan nhw mewn sefyllfa gref i fatio am ychydig ar y diwrnod olaf cyn cau’r batiad mewn ymgais i geisio buddugoliaeth.