Mae rheolwr Clwb Pêl-droed y Drenewydd, Chris Hughes, yn dweud ei bod “bron yn amhosib” i dimau Cymru gystadlu ar lefel Ewropeaidd.

Colli o 1-0 (5-0 dros ddau gymal) yn erbyn Dundalk oedd hanes y Drenewydd yng Nghyngres Ewropa neithiwr (nos Fawrth, 13 Gorffennaf).

Cymhwysodd y Drenewydd ar gyfer Cyngres Ewropa ar ôl trechu Caernarfon o 5-3 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf.

Cyngres Ewropa yw cystadleuaeth newydd UEFA ar gyfer timau lefel isaf Cynghrair Ewropa, sydd wedi ei gwtogi o 48 i 32 o dimau yn y grwpiau eleni.

Does dim timau’n cymhwyso’n uniongyrchol i grwpiau Cyngres Ewropa, gyda deg tîm yn disgyn o Gynghrair Ewropa a’r gweddill yn dod drwy’r rowndiau rhagbrofol.

Roedd y tîm cartref yn wynebu tasg enfawr ar ôl colli o 4-0 yn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.

Ond roedd hwn yn berfformiad dipyn yn fwy parchus, a hynny yn erbyn tîm sydd wedi hen arfer cystadlu yn Ewrop, gan gyrraedd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa y llynedd.

Michael Duffy sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 52 munud, gan rwydo yn erbyn y Drenewydd am yr ail wythnos yn olynol.

‘Amhosibl cystadlu’

Fodd bynnag, ar ôl y golled doedd y rheolwr, Chris Hughes, ddim yn hapus a galwodd am fwy o fuddsoddiad yng ngêm ddomestig Cymru.

“Mae’n ymwneud â lefelau,” meddai wrth Sgorio.

“Rydych chi’n gofyn i fy nhîm, fy nghriw o chwaraewyr, chwarae yn erbyn clwb a enillodd 4.5m ewro ar ôl cyrraedd y grwpiau’r y tymor diwethaf – roedden nhw’n chwarae yn erbyn Arsenal y llynedd.

“Gadewch i ni wneud hynny yn glir yn gyntaf.

“Yn ail, dydy ein tymor ni heb ddechrau eto, tra eu bod nhw yn chwarae pêl-droed ar hyn o bryd.

“Mae bron yn amhosibl cystadlu.

“Rwy’n gwybod bod pobol wedi siarad amdano dros y blynyddoedd… ac yna mae’n tueddu i gael ei anghofio.

“Mae’r tymor domestig yn dechrau ac yna rydyn ni’n meddwl am y peth eto’r haf nesaf pan nad yw’r clybiau’n gwneud cystal.”

Bydd Cei Connah, pencampwyr Cymru yn gobeithio cystadlu yn erbyn pencampwyr Armenia, FC Alashkert yn ail gymal rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr heddiw (14 Gorffennaf).

‘Buddsoddiad’

“Y gwahaniaethau rhwng y ddau glwb yw’r buddsoddiad, yr arian gwobr maen nhw’n ei gynhyrchu ac maen nhw’n parhau i fuddsoddi,” meddai Chris Hughes wedyn.

“Mae eu cyllideb (Dundalk) yn llawer iawn uwch nag unrhyw glwb yn ein cynghrair ni. Byddai’n anodd iawn i unrhyw un gystadlu â nhw.

“Dydw i ddim yn gwybod yr ateb. A ddylai fod mwy o fuddsoddiad mewn clybiau gan y llywodraeth? Mwy o gefnogaeth o bosibl? Ai chwarae pêl-droed yn ystod yr haf yw’r ateb?

“Mae’n gwestiwn nad oes neb wedi cael yr ateb iddo ers amser maith.”

Gêm fawr i Cei Connah – sy’n herio FC Alashkert gyda dim ond 15 yn y garfan

Dynion Andy Morrison yn gobeithio mynd ymhellach nag erioed o’r blaen yng Nghynghrair y Pencampwyr

Noson siomedig i dimau Cymru yn Ewrop

Gêm gyfartal i’r Seintiau Newydd, ond y Bala a’r Drenewydd yn colli