Bydd Cei Connah yn herio FC Alashkert yn ail gymal rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr heddiw (14 Gorffennaf), gyda’r gic gyntaf am 4 o’r gloch.

Llwyddodd tîm Andy Morrison i frwydro’n ôl a sicrhau gêm gyfartal 2-2 yn erbyn pencampwyr Armenia nos Fercher (Gorffennaf 7).

Teuta Durres o Albania neu Siryf Tiraspol ym Moldofa fydd yn herio’r enillwyr yn yr ail rownd ragbrofol.

Ond daeth ergyd drom i obeithion Cei Connah o gymhwyso ar gyfer yr ail rownd ragbrofol wrth i ddau o’u chwaraewyr brofi’n bositif am Covid-19.

Mae tri o’u chwaraewyr wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr effaith fyddai gorfod hunanynysu yn ei chael ar eu swyddi ar ôl dod adref.

Ac roedd Andy Morrison eisoes heb dri aelod o’i garfan oherwydd anafiadau.

Mae dau chwaraewr o’r academi wedi teithio gyda’r garfan o ganlyniad i’r holl absenoldebau.

“Rydyn ni mewn cyfnod digynsail ac mae Covid wedi achosi cymaint o broblemau mewn cymaint o feysydd,” meddai Andy Morrison ar drothwy’r gêm.

“Yr hyn sy’n bwysig iawn yw bod yr 11 sy’n dechrau a’r bechgyn sy’n rhan o’r garfan yn rhoi popeth sydd ganddynt a byddaf yn derbyn y canlyniad, beth bynnag ddaw.”

Gobeithio mynd ymhellach na’r llynedd

Mae Cei Connah yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am yr ail dymor yn olynol a dyma’r chweched tymor yn olynol i Andy Morrison arwain y clwb i Ewrop.

Colli 0-2 yn erbyn FK Sarajevo oedd hanes Cei Connah yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.

Ac os na fydd tîm Andy Morrison yn cymhwyso i’r rownd nesaf, byddan nhw’n mynd ymlaen i gystadlu yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd y mae’r Seintiau Newydd, Y Bala, a’r Drenewydd yn cystadlu ynddi eleni.

Cipolwg ar FC Alashkert

Mae FC Alashkert wedi ennill Uwchgynghrair Armenia bedair gwaith, yn fwyaf diweddar y tymor diwethaf.

Maen nhw hefyd wedi ennill Cwpan Armenia ar un achlysur yn nhymor 2018-19.

Colli o 6-0 yn erbyn Celtic dros ddau gymal oedd eu hanes y tro diwethaf iddyn nhw gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ers hynny mae’r clwb wedi cystadlu yng Nghynghrair Ewropa, gan gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn haf 2019.

Un cefnogwr wedi gwneud y daith

Mae un cefnogwr ffyddlon wedi gwneud y daith 2,428 millitir i Armenia i weld Cei Connah yn ceisio gwneud hanes.

Gobeithio yn wir na fydd Mike yn cael ei siomi ac y bydd dynion Andy Morrison gwneud ei drip yn un gwerth chweil!

Cei Connah yn teithio i Armenia gyda 15 o chwaraewyr yn unig

Rheolau Covid-19, achosion positif ac anafiadau yn cyfyngu ar garfan pencampwyr Cymru

Gêm gyfartal, 2-2, i dîm pêl-droed Cei Connah yn erbyn FC Alashkert yn Ewrop

Gobeithion y tîm Cymreig o gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn dal yn fyw