Bydd Alun Wyn Jones yn ailymuno â charfan y Llewod, wedi iddo wella’n llwyr o anaf i’w ysgwydd.

Roedd o eisoes wedi bod yn ymarfer gyda thîm Cymru, ac ar ôl iddo orffen sesiwn ddwbl gyda nhw ddydd Mawrth, cafodd asesiad cadarnhaol gan ddoctoriaid.

Cafodd capten Cymru’r anaf yn erbyn Japan ar Fehefin 26, a bryd hynny, doedd dim disgwyl iddo allu cwblhau’r daith, felly cafodd ei yrru adref.

Ar ôl dyfalbarhau a chael cymorth gan ddoctoriaid, fe sylweddolodd bod yr anaf ddim mor ddrwg â’r disgwyl, ac fe gafodd ailymuno â thîm Cymru i hyfforddi yn y cyfamser.

Bydd y clo, sy’n 35 oed, yn cyrraedd gwersyll y Llewod yn Cape Town ddydd Iau, wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Stormers ddydd Sadwrn.

‘Wrth ein boddau’

“Rydyn ni wrth ein boddau yn croesawu Alun Wyn yn ôl,” meddai prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland.

“Bydd e ddim yn syndod i unrhyw un sy’n ei adnabod ei fod wedi gweithio’n galed i geisio dychwelyd ers anafu ei ysgwydd yn erbyn Japan.

“Mae’n anhygoel a dweud y gwir ei bod hi ddim ond yn 18 diwrnod ers iddo ein gadael ni yng Nghaeredin.

“Mae e’n amlwg yn awchu i gael bod yn ôl ac o beth dw i wedi ei weld ar fideo a drwy adborth, dydy e heb ddal yn ôl yn yr ymarferion.

“Mae’n hwb enfawr i’r Llewod croesawu chwaraewr o faint Alun Wyn yn ôl.”