Mae tîm pêl-droed Cei Connah, pencampwyr Cymru, wedi teithio i Armenia gyda charfan o ddim ond 15 o chwaraewyr ar gyfer gêm ail gymal rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn FC Alashkert.

Llwyddodd tîm Andy Morrison i frwydro’n ôl a sicrhau gêm gyfartal 2-2 yn erbyn pencampwyr Armenia nos Fercher (Gorffennaf 7).

Teuta Durres o Albania neu Siryf Tiraspol ym Moldofa fydd yn herio’r enillwyr yn yr ail rownd ragbrofol.

Ond daeth ergyd drom i obeithion Cei Connah o gymhwyso ar gyfer yr ail rownd ragbrofol wrth i ddau o’u chwaraewyr brofi’n bositif am Covid-19.

Mae tri o’u chwaraewyr wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr effaith fyddai gorfod hunanynysu yn ei chael ar eu swyddi ar ôl dod adref.

Ac roedd Andy Morrison eisoes heb dri aelod o’i garfan oherwydd anafiadau.

Cafodd Danny Holmes a Sameron Dool eu diystyru oherwydd phroblemau pen-glin difrifol, tra bod Jay Owen wedi cael anaf i groth y goes (calf).

Mae’n debyg bod dau chwaraewr o’r academi wedi teithio gyda’r garfan o ganlyniad i’r holl absenoldebau.

Pe bai Cei Connah yn llwyddo i drechu pencampwyr Armenia o dan yr amgylchiadau, mae’n debyg y byddai’n un o’r canlyniadau gorau yn hanes clybiau Cymru yn Ewrop.

Mae’r ail gymal yn cael ei chwarae yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 14), am 4 o’r gloch yn Yerevan, Armenia.

Gêm gyfartal, 2-2, i dîm pêl-droed Cei Connah yn erbyn FC Alashkert yn Ewrop

Gobeithion y tîm Cymreig o gyrraedd yr ail rownd ragbrofol yn dal yn fyw