Mae Wayne Hennessey, golwr tîm pêl-droed Cymru, wedi gadael Crystal Palace ar ôl i’w gytundeb ddod i ben.

Treuliodd e saith mlynedd yn ne Llundain, gan chwarae 132 o weithiau i’r clwb, gan gadw llechen lân 37 o weithiau.

Fe sydd â’r record am y nifer fwyaf o gapiau i golwr dros Gymru, gyda 96.

Mae Crystal Palace wedi diolch iddo fe am ei gyfraniad i’r clwb ac wedi dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.

Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod e am ymuno â Burnley.