Mae’r Drenewydd yn wynebu tasg enfawr wrth iddyn nhw herio Dundalk, y tîm o Weriniaeth Iwerddon, yn ail gymal rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Ewropa.

Colli o 4-0 oddi cartref yn erbyn Dundalk oedd hanes y Drenewydd yr wythnos ddiwethaf.

Michael Duffy sgoriodd y gôl gyntaf i’r tîm cartref, a hynny ar ôl 34 munud.

Bum munud yn ddiweddarach, rhwydodd David McMillan i ddyblu mantais Dundalk.

Sgoriodd Will Patching y drydedd, cyn i Han Jeong-woo ddymchwel unrhyw obeithion oedd gan y Drenewydd, gyda phedwaredd gôl y tîm cartref.

Mae Dundalk wedi hen arfer â chystadlaethau Ewropeaidd, ac fe gyrhaeddon nhw’r grwpiau yng Nghynghrair Ewropa y llynedd.

Felly bydd angen perfformiad penigamp gan y Drenewydd os yw tîm Chris Hughes am gymhwyso ar gyfer ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa.

Bydd y gic gyntaf am 5:45yh yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, heno (nos Fawrth, Gorffennaf 13).

Beth yw Cyngres Ewropa?

Cyngres Ewropa yw cystadleuaeth newydd UEFA ar gyfer timau lefel isaf Cynghrair Ewropa, sydd wedi ei gwtogi o 48 i 32 o dimau yn y grwpiau eleni.

Does dim timau’n cymhwyso’n uniongyrchol i grwpiau Cyngres Ewropa, gyda deg tîm yn disgyn o Gynghrair Ewropa a’r gweddill yn dod drwy’r rowndiau rhagbrofol.

Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn ennill eu lle yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesaf, oni bai eu bod nhw’n cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr.

Noson siomedig i dimau Cymru yn Ewrop

Gêm gyfartal i’r Seintiau Newydd, ond y Bala a’r Drenewydd yn colli