Mae amheuon am ffitrwydd y capten Jonathan Davies, ynghyd â Willis Halaholo ac Aaron Wainwright, cyn ail brawf tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Gorffennaf 17).

Cafodd y tri anafiadau yn ystod y prawf cyntaf, a ddaeth i ben yn gyfartal 20-20, a byddan nhw’n cael eu hasesu cyn i’r tîm gael ei gyhoeddi ddydd Iau (Gorffennaf 15).

Mae Cymru eisoes heb nifer sylweddol o chwaraewyr oherwydd taith y Llewod i Dde Affrica.

Ond maen nhw wedi cael hwb annisgwyl hefyd, wrth i’r clo a’r capten parhaol Alun Wyn Jones ymarfer gyda nhw ar ôl methu â theithio i Dde Affrica gyda’r Llewod ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Mae’r chwaraewr 35 oed yn gobeithio profi ei ffitrwydd er mwyn gallu hedfan allan ar gyfer y gemau prawf.