Mae dyn 50 oed o ardal Caerwrangon wedi’i arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad ar amheuaeth o anfon negeseuon hiliol at Marcus Rashford, pêl-droediwr Lloegr, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o annog casineb hiliol yn dilyn neges a gafodd ei phostio ddydd Sul (Gorffennaf 11).

Daw hyn ar ôl i Loegr golli yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol Ewro 2020 yn Wembley, ac roedd Rashford ymhlith y rhai oedd wedi methu â’i gic o’r smotyn ar ddiwedd yr ornest.

Roedd y neges yn argymell “llosgi” Rashford ac yn ei annog i “hel ei bac a mynd yn ôl i dy wlad dy hun”.

Ymddangosodd y neges ar gyfrif yr hyfforddwr pêl-droed, ac mae’n honni bod ei gyfrif wedi cael ei hacio.