Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi denu’r cefnwr chwith Ryan Giles ar fenthyg am dymor o Wolves.

Treuliodd y chwaraewr 21 oed gyfnodau ar fenthyg gyda Coventry a Rotherham y tymor diwethaf.

Mae e hefyd wedi chwarae i Telford ac Amwythig yn y gorffennol.

Daeth ei gêm gyntaf i Wolves yng Nghwpan FA Lloegr yn 2019.

Mae’n dweud ei fod e wrth ei fodd o gael ymuno â’r Adar Gleision.

“Mae Caerdydd yn glwb enfawr a chanddo hanes gwych a chefnogwyr anhygoel,” meddai wrth wefan yr Adar Gleision.

“Mae chwaraewyr da iawn yma a dw i’n credu y bydd y gystadleuaeth yn iachus.

“Gobeithio y bydd yn sicrhau fy mod i ar fy ngorau.

“Dw i eisiau dod yma, cael cynifer o gemau ag y galla i a helpu’r tîm gymaint â phosib.”