Doedd penderfyniad tîm criced Morgannwg i gau eu batiad cyntaf cyn dechrau pedwerydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd ddim wedi talu ar ei ganfed, wrth i’r ornest orffen yn gyfartal.

Ar ôl i fatiad cynta’r Saeson ddod i ben ar 215 am naw, adeiladodd Morgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf o 247 a chau’r batiad ar 462 am bedair yn y gobaith o fowlio’u gwrthwynebwyr allan ar y diwrnod olaf.

Bu’n rhaid i Swydd Northampton fatio heb ddau chwaraewr, gyda Gareth Berg allan o’r gêm oherwydd anaf a Luke Procter wedi dychwelyd adref am resymau personol, ac felly dim ond wyth wiced oedd eu hangen ar Forgannwg i fowlio’r ymwelwyr allan.

Dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth i’r Awstraliad Michael Neser gipio tair wiced o fewn 11 pelawd gynta’r batiad i waredu Ricardo Vasconcelos, Emilio Gay a Will Thurston, gyda’r tri wedi’u dal gan y wicedwr Chris Cooke i adael y Saeson yn 52 am dair.

Daeth y wicedi hyn ar ôl i Neser dderbyn ei gap sirol yn wobr am ddechrau cryf i Forgannwg y tymor hwn.

Tarodd Rob Keogh hanner canred cyn ymddeol heb fod allan er mwyn gwylio angladd ei fam-gu ar y we, a dychwelyd yn ddiweddarach i orffen heb fod allan ar 71, a Harry Gouldstone yn gorffen heb fod allan ar 67 wrth i’r ddau achub eu tîm gan orffen ar 250 am bump.

Yr unig fatwyr arall allan oedd Saif Zaib, a gafodd ei redeg allan gan Marnus Labuschagne am 19 oddi ar belen ola’r bore, a Simon Kerrigan, a gafodd ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am 36.

Pan orffennodd y gêm, roedden nhw dri rhediad ar y blaen ond doedd dim digon o belawdau’n weddill i Forgannwg gael batio eto.

Kiran Carlson

Morgannwg yn torri sawl record wrth sicrhau sefyllfa gref ar y trydydd diwrnod

462 am bedair yn erbyn Swydd Northampton, ar ôl i Kiran Carlson a Chris Cooke adeiladu partneriaeth ddi-guro o 307

Y glaw yn rhwystro Morgannwg unwaith eto yng Nghaerdydd

52 am ddwy wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Northampton o 215 am naw
Timm van der Gugten

Dechrau da i Forgannwg cyn i’r glaw ddod yng Nghaerdydd

Swydd Northampton yn 128 am bedair ar ddiwedd y diwrnod cyntaf a gafodd ei gwtogi

Morgannwg v Swydd Northampton (dydd Sul, Gorffennaf 11)

Mae Morgannwg eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr ail adran yn rhan ola’r Bencampwriaeth