Mae Cei Connah allan o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl colli o 1-0 yn erbyn FC Alashkert, pencampwyr Armenia ar ôl amser ychwanegol.

Cafodd Jamie Mullan a Jordan Davies gyfleoedd gwych i’r Nomads yn ystod amser arferol.

Ond llwyddodd gôl geidwad FC Alashkert i arbed ymdrech wych gan Mullan, cyn gwneud arbediad gwell fyth mewn sefyllfa un yn erbyn un pan yr oedd Davies drwodd ar y gôl

Y Ffrancwr, Vincent Bezercourt, sgoriodd y gôl fuddugol i’r tîm cartref, a hynny ar ôl 112 o funudau.

Roedd yn berfformiad arwrol gan bencampwyr Cymru, oedd ddim ond â pedwar chwaraewr ar y fainc – a dau ohonynt yn chwaraewyr o’r academi – yn dilyn profion Covid-19 positif ag anafiadau.

Ar ben hynny roedd tri o’u chwaraewyr wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr effaith fyddai gorfod hunanynysu yn ei chael ar eu swyddi ar ôl dod adref.

Ac mae’n debyg bod hynny wedi effeithio ar y canlyniad, gyda’r tîm cartref yn gwneud chwech newid o’r fainc yn ystod y gêm, tra bod Cei Connah ddim ond wedi gallu gwneud dau – ac roedd un o’r rheini ar ôl 120 o funudau!

Yn sicr, gall dynion Andy Morrison fod yn falch iawn o’u perfformiad dros y ddau gymal, ar ôl brwydro yn ôl sicrhau gêm gyfartal 2-2 nos Fercher (7 Gorffennaf).

Mae’n debyg eu bod nhw wedi haeddu cymryd yr ornest i giciau o’r smotyn yn ôl llif y chwarae, ond tor calon oedd hi i’r Nomads.

Er gwaethaf y siom, dyw’r antur Ewropeaidd ddim yn dod i ben, gyda Cei Connah yn disgyn i ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd UEFA – lle byddan nhw’n herio FC Prishtina yn Kosovo ddydd Mawrth (20 Gorffennaf).

Gêm fawr i Cei Connah – sy’n herio FC Alashkert gyda dim ond 15 yn y garfan

Dynion Andy Morrison yn gobeithio mynd ymhellach nag erioed o’r blaen yng Nghynghrair y Pencampwyr

Cei Connah yn teithio i Armenia gyda 15 o chwaraewyr yn unig

Rheolau Covid-19, achosion positif ac anafiadau yn cyfyngu ar garfan pencampwyr Cymru