Mae’r canolwr Nick Tompkins yn galw ar dîm rygbi Cymru i fod yn ddidrugaredd er mwyn ceisio ennill y gyfres brawf yn erbyn yr Ariannin o 1-0 ar ôl yr ail brawf ddydd Sadwrn (Gorffennaf 17).

Daeth y prawf cyntaf yng Nghaerdydd i ben yn gyfartal 20-20, sy’n golygu bod gan Gymru gyfle i ennill y gyfres o 1-0 pe baen nhw’n ennill yr ail brawf.

Yn ôl Tompkins, fe wnaeth Cymru golli’r cyfle i fanteisio ar ddyn ychwanegol ar ôl i’r Ariannin fynd i lawr i 14 dyn gyda cherdyn coch i Juan Cruz Mallia.

“Daethon ni i ffwrdd yn rhwystredig iawn, pob un ohonom,” meddai’r canolwr.

“Rydych chi’n edrych arni, 14 dyn, dylech chi ddominyddu a dylai fod yna dyllau a chyfleoedd.

“Rydyn ni’n edrych yn ôl ac yn meddwl ein bod ni wedi gwastraffu llawer o gyfleoedd da.

“Rydyn ni wedi edrych dipyn ar hynny dros y dyddiau diwethaf ac wedi clustnodi lle mae angen i ni fod yn well.

“Maen nhw’n dîm da ac mae ganddyn nhw’r tîm cryfaf – rhaid i chi gofio hynny – ond fe ddaethon ni i ffwrdd yn rhwystredig ac mae’n fater o adeiladu nawr ar gyfer y gêm olaf hon.

“Mae llawer mwy rydyn ni am ei roi, a diolch i Dduw fod gyda ni un gêm arall.”

Cyfle am seibiant

Bydd Nick Tompkins yn falch o gael seibiant ar ôl yr ail brawf ar ôl cyfnod anodd yn sgil Covid-19.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae e wedi bod ar fenthyg gyda’r Dreigiau, cyn dychwelyd i orffen y tymor gyda’r Saraseniaid wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r Premiership.

“Dw i wedi cyffroi o gael chwarae’r gêm ac efallai o gymryd rhywfaint o wyliau,” meddai.

“Mae wedi bod yn hen dymor hir ac yn un rhyfedd hefyd.

“Mae wedi bod yn straen emosiynol ac yn eithaf anodd.”