Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl llacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi y bydd gorfodaeth ar wisgo mygydau yn dod i ben yn Lloegr o 19 Gorffennaf ymlaen. Mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi’r cynlluniau terfynol yfory, dydd Llun 12 Gorffennaf.

Yng Nghymru fodd bynnag bydd gwisgo mygydau’n dal i fod yn orfodol mewn tacsis, trenau a bysiau, yn ogystal â lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Llywodraeth yn ystyried a fydd angen cynnwys lleoliadau eraill hefyd fel siopau.

Dywed Llywodraeth Cymru fod cyngor gwyddonol yn cefnogi’r defnydd o orchuddion wyneb fel ffordd o leihau trosglwyddo’r feirws, a’u bod yn ddefnyddiol iawn mewn lleoedd o dan do sydd ag awyru gwael.

“Mae gan bawb ohonom ddyletswydd i ddiogelu’n gilydd,” meddai’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan. “Cadw pawb yn saff fu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru trwy’r pandemig a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol.”

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad na fydd gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell yn rheolaidd yn ysgolion Cymru o fis Medi ymlaen.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakefor wneud datganiad pellach ddydd Mercher yn rhoi mwy o fanylion ar lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, hefyd yn cyhoeddi camau nesaf ei llywodraeth dydd Mawrth.