Mae Liz Saville Roberts wedi dweud wrth golwg360 fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru “rŵan hyn”.
Daw ei sylwadau yn dilyn rali #NidYwCymruArWerth yn Nhryweryn heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 10).
Cafodd “bron i hanner” y tai ar y farchnad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, etholaeth Liz Saville Roberts, eu gwerthu fel ail gartrefi’r llynedd, yn ôl ystadegau newydd.
Dengys y data gan Awdurdod Cyllid Cymru fod 44% o’r eiddo a gafodd ei werthu yn yr etholaeth yn 2020-21 wedi’i ddosbarthu yn y categori Cyfraddau Uwch – lle byddai’r mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu gwerthu fel ail gartrefi.
Mae’r ystadegau’n dangos hefyd mai Dwyfor Meirionnydd gyfrannodd fwyaf mewn treth trafodion tir yng Nghymru oherwydd y nifer uchel o werthiannau eiddo Cyfraddau Uwch, gydag Ynys Môn a Gŵyr yn dilyn.
Roedd Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli’r etholaeth yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ymhlith y siaradwyr yn y rali.
‘Bron dim dealltwriaeth o frys ac argyfwng y sefyllfa’
“Mae cronfa Tryweryn yn lleoliad pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.
“Beth oedd yn dod drosodd, drosodd a thro oedd fod Llywodraeth Cymru’n ymateb drwy wneud cyn lleied ag sy’n bosib ac yn dangos bron dim dealltwriaeth o frys ac argyfwng y sefyllfa sy’n wynebu ein cymunedau Cymraeg.
“Yn ardal Morfa Nefyn lle dw i’n byw, rydan ni’n gweld y gymuned yn newid o’n blaenau ni o fis i fis.
“Does dim angen mwy o beilots, does dim angen mwy o ymchwilio neu ymgynghori, rydan ni’n gwybod fod yna broblem.
“Rydan ni’n gwybod fod cynghorau megis Gwynedd yn cynnig datrysiadau, rydan ni’n gwybod fod yna bobol eraill sy’n byw’r profiad fel Cyngor Tref Nefyn, hyd yn oed adroddiad Dr Simon Brooks yn cynnig beth sy’n bosib eu gwneud rŵan hyn – ewyllys gwleidyddol i ddeddfu, i wneud newidiadau, i wneud arian ar gael sy’n gwneud y newidiadau i newid beth oedd yn dŷ preswyl yn fusnes dros nos, bod yna fodd i wneud rhywbeth am hyn rŵan hyn.
“Ac iddyn nhw gymryd y camau hynny ac wedyn edrych tuag at yr hyn sy’n bosib ei wneud i’r dyfodol.
“Ond mae jyst gohirio yn teimlo fel cyfleustra gwleidyddol i’r Blaid Lafur, a dydi o ddim yn dangos ewyllys mewn gwirionedd i wneud unrhyw beth i’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith unigryw rŵan hyn.”
‘Newid yn digwydd yn ein cymunedau rŵan hyn’
Y siaradwyr yn y rali oedd Cian Ireland, sy’n aelod o’r Blaid Lafur ac yn gyn-ymgeisydd dros y blaid yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd; Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith; Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; a’r ymgyrchydd iaith Dafydd Iwan.
“Eto fyth, gan bob un ohonyn nhw, roedd y synnwyr o argyfwng rŵan hyn, a’r angen i wneud rhywbeth rŵan hyn,” meddai Liz Saville Roberts am y siaradwyr.
“Mae’r farchnad rydd yn ein methu ni rŵan hyn.
“Rydan ni’n gweld y newid yn digwydd yn ein cymunedau rŵan hyn.
“Mae yna beth grym gan Lywodraeth Cymru, gan y Blaid Lafur, fedran nhw weithredu rŵan hyn hefyd, fedran nhw gryfhau’r hyn mae awdurdodau megis Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro yn gallu gwneud.
“Ond nhw piau’r grym i wneud hynny.
“Mae jyst gwneud rhywbeth fel peilot, ymgynghori bellach yn teimlo fel yr ieithwedd mae’r Blaid Lafur yn ei ddefnyddio pan maen nhw eisiau plesio pobol sydd ddim wedi arfer â’u ffordd o siarad bo nhw’n mynd i wneud rhywbeth ond mewn gwirionedd, mae o jyst yn meddwl mai ateb rŵan hyn i wneud dim byd ydi o.”