Cafodd “bron i hanner” y tai ar y farchnad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn 2020 eu gwerthu fel ail gartrefi’r llynedd, yn ôl ystadegau newydd.
Dengys y data gan Awdurdod Cyllid Cymru fod 44% o’r eiddo a gafodd ei werthu yn yr etholaeth yn 2021-21 wedi’i ddosbarthu yn y categori Cyfraddau Uwch – lle byddai’r mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu gwerthu fel ail gartrefi.
Mae’r ystadegau’n dangos hefyd mai Dwyfor Meirionnydd gyfrannodd fwyaf mewn treth trafodion tir yng Nghymru oherwydd y nifer uchel o werthiannau eiddo Cyfraddau Uwch, gydag Ynys Môn a Gŵyr yn dilyn.
Bydd rali’n cael ei chynnal heddiw (10 Gorffennaf) yn Nhryweryn er mwyn protestio yn erbyn “chwalfa cymunedau” yn sgil yr argyfwng tai haf, ac mae disgwyl y bydd cannoedd yn ymgyrchu.
“Brawychus”
Mae Llefarydd Tai Plaid Cymru ac Aelod Dwyfor Meirionnydd o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor, wedi galw’r ystadegau’n “frawychus”, gan alw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd sy’n cynnwys “tair elfen uchelgeisiol” gan roi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai, yn ogystal â chyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, a defnyddio systemau treth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg i’r ardaloedd.
“Brawychus”
Bydd Mabon ap Gwynfor yn annerch y dorf yn y rali heddiw, gan alw am ymyrraeth uniongyrchol i liniaru’r argyfwng gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartref a newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi.
Oni bai bod camau’n cael eu cymryd i weithredu, bydd “mwy o gymunedau yn cael eu colli”, meddai.
“Mae’r ystadegau hyn yn frawychus ac yn cadarnhau’r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod: Mae hwn yn argyfwng a fydd yn dinistrio cymunedau os na chymerir camau brys gan y Llywodraeth,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Gwerthwyd bron i hanner y stoc dai yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionydd fel ail gartrefi ac yna Sir Benfro, Gorllewin Caerfyrddin ac Ynys Môn – ardaloedd lle mae cymunedau yno wedi cael eu difetha gan argyfwng yr ail gartrefi.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi aros a gwylio wrth i’n cymunedau gael eu hamlyncu gan yr argyfwng tai. Roedd eu cyhoeddiad diweddaraf yr wythnos hon yn wan ac yn cicio’r broblem lawr y lon. Ni fydd ymgynghoriadau, treialon a chynlluniau peilot yn ddigonol. Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw gweithredu – ac yn gyflym.
“Mae Plaid Cymru yn mynnu ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng tai, gan gynnwys treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi, newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, a chau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion tai ail cofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a diwygio’r Ddeddf Llywodraeth Leol i rymuso awdurdodau lleol i reoli’r stoc dai yn well.
“Fy neges i’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yw hyn. Gweithredwch nawr – cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Oni bai eich bod yn cymryd camau i weithredu nawr, yna byddwn yn gweld mwy o gymunedau yn cael eu colli, a mwy o bobl yn symud o’u cymunedau. Mae gan bawb hawl i fyw gartref.”