Bydd Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf) yn alinellu cynllun i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau.
Wrth siarad yn Nhŷ Ddewi ddoe, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros dai, fod y “cynnydd parhaus ym mhrisiau tai yn golygu na all pobl, yn enwedig cenedlaethau iau, fforddio byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu.”
Bydd y cynllun yn cynnwys “tair elfen uchelgeisiol” gan roi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai, yn ogystal â chyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, a defnyddio systemau treth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg i’r ardaloedd.
Y llynedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i roi pŵer i awdurdodau lleol godi 100% o gynnydd treth gyngor ar ail gartrefi.
Fe ychwanegodd y gweinidog fod “brys a difrifoldeb y sefyllfa hon yn galw am ymyrraeth bellach, a chamau gweithredu uchelgeisiol yn sydyn, er mwyn chwistrellu tegwch yn ôl i’r system dai”.
‘Peryglu’r Gymraeg’
Dywedodd Julie James: “Gall crynodiad uchel o ail gartrefi neu dai gwyliau gael effaith andwyol iawn ar gymunedau bach, ac mewn rhai ardaloedd gallai beryglu’r Gymraeg sy’n cael ei siarad ar lefel gymunedol”.
“Gan gymryd argymhellion o adroddiad Dr Brooks,” meddai, “bydd ein dull tair elfen newydd yn sbarduno haf o weithredu er mwyn penderfynu sut byddwn yn mynd i’r afael â’r mater hwn nawr ac yn y dyfodol.
“Rwy’n galw ar bob plaid wleidyddol ar draws y Senedd i gymryd rhan yn hyn, wrth i ni geisio grymuso ein cymunedau i arfer eu hawl i fyw mewn cartrefi o ansawdd da, ble bynnag y bônt yng Nghymru.”
Bydd Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg, i ddiogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref.
‘Fy ffrindiau wedi gorfod symud i ffwrdd’
Yn ôl Rachel Kelway-Lewis, 25, o Solfach, mae “mwy a mwy o bobl yn chwilio am eiddo” yn ei hardal.
Mae rhai tai, meddai, yn mynd am dros hanner miliwn o bunnoed ac “yn gwerthu’n gyflym iawn”.
“Rydyn ni’n gweithio’n llawn amser,” meddai Rachel, “ond does dim modd i ni brynu na hyd yn oed rentu yn yr ardal leol, oni bai ein bod yn ddigon ffodus i gael cymorth ariannol gan ein rhieni.
“Mae llawer o fy ffrindiau wedi gorfod symud i ffwrdd i gael troed ar yr ysgol dai”.
Bydd cynllun peilot yn cael ei gynnal mewn un ardal yng Nghymru – i’w gadarnhau dros yr haf – cyn ystyried cyflwyno hynny’n ehangach yn ddiweddarach.