Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen sy’n ceisio gwella cyfraddau goroesi ar ôl ataliad y galon yn cael cymorth ariannol o bron i £2.5m dros y tair blynedd nesaf.

Bwriad y cyllid yw galluogi i Achub Bywydau Cymru wella ymwybyddiaeth am ataliad y galon, ac ariannu adnoddau addysgol a hyfforddiant.

Bydd hyn yn cynnwys gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr, yn ogystal â datblygu sgiliau a hyder pobol i roi CPR a defnyddio diffibriliwr.

Daw hyn wrth i ffigurau ddangos mai Cymru sydd ag un o’r cyfraddau goroesi isaf yn Ewrop, a’r isaf yn y Deyrnas Unedig os bydd rhywun yn cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.

Mae’r gyfradd oroesi mor isel â 4.6% yng Nghymru, sy’n llai na hanner cyfradd Lloegr (9.4%), ac yn is na’r Alban (10.2%).

Amcangyfrifir fod 6,000 o bobol yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn.

Bydd y cyllid yn caniatáu i Achub Bywydau Cymru ymgymryd â’r Cynllun Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty, ac yn cynnwys cynlluniau partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Hanfodol”

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n addysgu pobol am yr hyn y dylent ei wneud pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

“Drwy wella ymwybyddiaeth o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i roi CPR a defnyddio diffibriliwr, gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol i’r cyfraddau goroesi.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu cymunedau i weithio gydag Achub Bywydau Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wella’r ddarpariaeth o ddiffibrilwyr, eu cynnal a’u cadw, a meithrin y sgiliau angenrheidiol i achub bywydau.

“Rydym yn falch o ariannu’r rhaglen hon a fydd hefyd yn cysylltu ag ysgolion, busnesau lleol, cynghorau tref a chymuned, clybiau chwaraeon ac academïau ar draws Cymru, a gobeithiwn y bydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.”