Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn “segur a di-gyfeiriad” yn eu datganiad ar y camau y bydden nhw’n eu cymryd i daclo’r argyfwng tai.

Heddiw (6 Gorffennaf), fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, sy’n gyfrifol am faterion tai hefyd, amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn cychwyn “haf o weithredu” ar yr argyfwng.

Gan ddilyn argymhellion Dr Simon Brooks, bydd y cynllun yn cynnwys “tair elfen uchelgeisiol” gan roi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai, yn ogystal â chyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, a defnyddio systemau treth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg i’r ardaloedd.

Fe ychwanegodd y gweinidog fod “brys a difrifoldeb y sefyllfa hon yn galw am ymyrraeth bellach, a chamau gweithredu uchelgeisiol yn sydyn, er mwyn chwistrellu tegwch yn ôl i’r system dai”.

“Llaesu dwylo”

Ond yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, y datganiad “yw’r enghraifft ddiweddaraf o’r Llywodraeth yn llaesu dwylo tra bod argyfwng yn y farchnad dai ar hyd a lled Cymru”.

“Dywed y Llywodraeth eu bod yn bwriadu arwain “haf o weithredu” i ddatrys yr argyfwng tai, ond ymddengys eu bod yn hytrach yn bwriadu treulio’r haf yn segur a di-gyfeiriad,” meddai Mabli Siriol.

“Rydyn ni’n falch o weld bod y Llywodraeth yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol sy’n wynebu ein cymunedau a’r Gymraeg, ond mae angen gweithredu go iawn. Yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei gynnig yw ymrwymiadau annelwig a di-uchelgais, a chynlluniau peilot ac ymgynghoriadau fydd yn cymryd blynyddoedd i wneud gwahaniaeth — ac erbyn hynny, mae perygl gwirioneddol y bydd yn rhy hwyr.

“Rydyn ni’n croesawu nod y Llywodraeth o lunio ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ i’w gyhoeddi yn yr Hydref fel cydnabyddiaeth bod yr argyfwng tai yn bygwth dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Ond rhaid i hwn fod yn gynllun cynhwysfawr sy’n ymdrin â’r system tai yn ei gyfanrwydd ac yn gosod llety gwyliau, ail gartrefi a’r farchnad dai yn gadarn o dan reolaeth gymunedol trwy’r broses gynllunio, yn hytrach na dim ond cynnig nifer fach o dai sydd ddim wir yn fforddiadwy i bobl leol ac sy’n gwneud y nesaf peth i ddim i ddatrys y broblem.

“Mae’r atebion gyda ni ar sut i ddatrys yr argyfwng tai a chryfhau ein cymunedau, yr hyn sydd ei angen ydy ewyllys wleidyddol.

“Bydd yr haf o weithredu go iawn yn cychwyn yn ein rali ar Argae Tryweryn ddydd Sadwrn, lle bydd cannoedd ohonom yno i fynnu bod y Llywodraeth yn cymryd y camau radical sydd eu hangen i sicrhau cartref i bawb yn eu cymuned, a dyfodol cadarn i’r Gymraeg.”

Bydd rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ yn cael ei gynnal ar argae Tryweryn am 1yh ddydd Sadwrn hwn, 10 Gorffennaf, gyda disgwyl i gannoedd ddod ynghyd i ffurfio argae dynol.

“Mesurau gwan”

“Mae’r “dull uchelgeisiol” bondigrybwyll hwn o fynd i’r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio’r broblem i lawr y lon heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd Tai Plaid Cymru.

“Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag argyfwng tai sy’n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus.

“Nid oes unrhyw beth yma ynglŷn am gau’r bwlch cyfreithiol parthed y dreth gyngor. Nid oes unrhyw beth yma am osod capiau ar ail gartrefi.

“Ac nid oes unrhyw beth yma am ddod â niferoedd cartrefi gwyliau i berchnogaeth gymunedol trwy ymyrraeth gyhoeddus – gan ddargyfeirio elw i ddatblygiadau lleol fel darparu tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori.”

“Ddim yn mynd digon pell”

“Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn cefnogi cymunedau Gwynedd sy’n dioddef o ganlyniad i effeithiau ail dai,” yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

“Er bod mawr ddisgwyl y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, nid yw’n mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu ein cymunedau nawr.

“Wnaiff ymgynghoriadau a chynlluniau peilot ddim cynorthwyo pobl ifanc sy’n awyddus i gyrraedd yr ysgol dai eleni, felly mae’n hynod rwystredig nad oes unrhyw gamau uniongyrchol yn y cyhoeddiad i gefnogi pobl nawr. Mae oedi yn effeithio ar ein cymunedau yn ddyddiol.

“Mae’n siomedig iawn gweld nad yw’r Llywodraeth wedi cymryd camau ar unwaith i addasu Deddf Llywodraeth Leol i rwystro perchnogion ail dai sy’n cofrestru eu heiddo fel ‘busnesau’ i osgoi talu unrhyw drethi.”

“Camgymeriad” cysylltu’r argyfwng ag ail dai

“Eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwneud cyhoeddiadau i’r wasg cyn y Senedd,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr dros Newid Hinsawdd, sydd hefyd yn gyfrifol am dai.

“Mae’r Gweinidog yn honni ei bod hi eisiau i bob plaid gael eu cynnwys, ond mae’n rhaid i fi ddiolch i S4C am wneud yr hyn mae Gweinidogion Cymru yn methu ei wneud: parchu ein Senedd.

“Does dim gwadu fod y cynnydd parhaus mewn prisiau tai yn golygu fod pobol, yn enwedig cenedlaethau eraill, methu fforddio byw yn y cymunedau maen nhw wedi’u magu ynddyn nhw bellach.

“Fodd bynnag, mae’r Gweinidog wedi gwneud camgymeriad mawr yn cysylltu hyn ag ail dai,” meddai.

“Mae’r adroddiad gan Dr Simon Brooks yn gwneud pwyntiau pwysig, gan gynnwys mai ychydig iawn o dystiolaeth sy’n dangos mai ail gartrefi yw prif achos prisiau tai uchel o gymharu â phrynwyr yn symud yno’n barhaol.

“Mae’n amlwg fod pobol leol methu cystadlu yn erbyn prynwyr o du allan i’r gymuned yn y farchnad dai mewn nifer o gymunedau yng Ngogledd a Gogledd-Orllewin Cymru, felly os yw’r Senedd wir wedi gwneud ymrwymiad i gydweithio ar draws y pleidiau ar yr argyfwng tai, dw i’n gofyn i’r Gweinidog gytuno i adfer Hawl i Brynu yn y cymunedau hynny sydd mewn argyfwng yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi enillion gwerthiannau mewn mwy o dai cymdeithasol a gwarchod tai ar werth am ddeng mlynedd.”

Rhaglen Hawl i Brynu

“Byddai fy natrysiad Hawl i Brynu ar gyfer cymunedau sydd mewn argyfwng yn dod â manteision mawr i ardaloedd fel Abersoch ac Aberdaron lle mae’r gyfradd incwm i brisiau tai yn 10.7:1,” ychwanega.

“Yn debyg, mae angen i’r Gweinidog ailystyried y rhaglen gofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau.

“Fel y mae hi’n gwybod yn iawn, rhaid i lety gwyliau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer cyfraddau busnesau gyrraedd criteria llym, felly dw i’n cael trafferth gweld beth fyddai’r rhaglen newydd yn llwyddo i’w greu oni bai am fiwrocratiaeth ychwanegol sy’n amsugno arian trethdalwyr.

“Dylai’r Gweinidog fynd i’r afael â’r ffaith y byddai unrhyw gynnydd yn y dreth trafodion tir yn creu argyfwng pellach i’r sector rhentu, a fyddai’n argyfwng i gymunedau fel Bangor a Chaernarfon; ac y gallai treialu’r cynllun peilot mewn lleoliad penodol symud y broblem i ardaloedd eraill.

“Byddai’r datrysiad Hawl i Brynu ar gyfer cymunedau sydd mewn argyfwng dw i’n ei awgrymu yn ymbweru pobol leol nawr ac yn y dyfodol i gael cartref yn eu hardal leol.

“Mae’n bolisi cyffroes sy’n haeddu cyfle.”

Cynllun Llywodraeth Cymru i “chwistrellu tegwch yn ôl i’r system dai”

Bydd y cynllun yn codi sicrhau tai fforddiadwy ac yn diogelu buddiannau cymunedau Cymraeg.