Mae’r Almaen yn llacio’r cyfyngiadau ar deithio o’r Deyrnas Unedig, Portiwgal a rhai gwledydd eraill.
Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno oherwydd cynnydd mewn achosion o amrywiolyn Delta y coronafeirws, sy’n fwy heintus.
Dywedodd canolfan rheoli afiechydon yr Almaen, y Sefydliad Robert Koch, nos Lun (5 Gorffennaf) y byddai’r Deyrnas Unedig, Portiwgal, Rwsia, India a Nepal yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd categori risg uchel oherwydd yr amrywiolyn, o ddydd Mercher (7 Gorffennaf).
Fe fyddan nhw’n cael eu symud i’r ail gategori o wledydd gyda nifer sylweddol o achosion.
Roedd y DU wedi bod yn y categori risg uchel ers 23 Mai, gyda Rwsia a Phortiwgal, yn cael eu hychwanegu ddydd Mawrth wythnos ddiwethaf.
Mae cwmnïau hedfan ac eraill wedi’u cyfyngu yn bennaf i gludo dinasyddion a phreswylwyr yr Almaen o ardaloedd lle mae amrywiolyn o’r firws, ac mae’n rhaid i’r rhai sy’n cyrraedd y wlad dreulio 14 diwrnod mewn cwarantin yn eu cartrefi.
Fe fydd pobl sy’n teithio o ardaloedd lle mae nifer sylweddol o achosion o’r amrywiolyn yn gallu osgoi cwarantin os ydyn nhw’n gallu profi eu bod wedi cael dau ddos o’r brechlyn neu wedi gwella o Covid-19. Fe fydd eraill yn gallu treulio llai o amser mewn cwarantin drwy gael prawf negyddol ar ôl pum diwrnod.
Dywed swyddogion y byddan nhw’n adolygu’r rhestrau wrth i nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta yn yr Almaen gynyddu.