Fe allai miloedd o swyddi gael eu diogelu gyda chwmni ceir Vauxhall wrth iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau heddiw (Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf) ar gyfer eu ffatri yn Ellesmere Port yn Sir Caer.

Mae Stellantis, rhiant gwmni Vauxhall Motors, wedi bod yn adolygu eu hopsiynau ar gyfer y safle, gan gynnwys adeiladu ceir trydan yno.

Roedd dyfodol y ffatri wedi bod yn ansicr ar ôl i Stellantis gyhoeddi na fyddai’r model newydd o’r Astra yn cael ei adeiladu yno.

Ond mae disgwyl i’r cwmni gyhoeddi eu bod yn buddsoddi yn y safle, gan sicrhau swyddi, drwy adeiladu faniau trydan yn Ellesmere Port.

Mae’r ffatri yn cyflogi nifer o weithwyr o ogledd Cymru yno, ac mae hyd at 7,000 o weithwyr yn y gadwyn gyflenwi yn dibynnu ar y ffatri am eu bywoliaeth, yn ôl undeb Unite.

Mae disgwyl i gynhadledd i’r wasg gael ei gynnal yno yn ddiweddarach heddiw.