Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o wrthod rhoi statws cyfartal i Gymru.

Daw hyn wedi i’r Ceidwadwyr bleidleisio yn erbyn cynnig i archwilio effeithiau datganoli pwerau dros gyfiawnder i Gymru yn San Steffan neithiwr (5 Gorffennaf).

Bwriad y cynnig, a gafodd ei gyflwyno gan Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, oedd gorfodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i archwilio’r effeithiau o fewn chwe mis, ond cafodd ei wrthod gyda 366 pleidlais yn erbyn, a 220 o blaid.

Mae mwy nag un Comisiwn wedi argymell y dylid datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru, y Comisiwn Silk  yn 2015 a’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru eto yn 2019.

Yn wahanol i Gymru, mae pwerau dros gyfiawnder wedi’u datganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

“Byddai fy nghynnig wedi cymell Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddechrau Asesiad Effaith ar effaith y Bil Plismona ar bolisïau a gwasanaethau wedi’u datganoli,” meddai Hywel Williams am y cynnig, a gafodd gefnogaeth gan y Blaid Lafur a’r SNP.

“Gallai’r newid hwn helpu i ddangos goblygiadau ein setliad datganoli cymhleth ac anghyson, a chynnig tystiolaeth i wella arno.

“Mae’n dod yn gynyddol gliriach efo pob darn o ddeddfwriaeth ddiofal sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan mai dim ond un ateb cynaliadwy sydd i drwsio ein system gyfiawnder doredig – datganoli pwerau yn llawn i Gymru.

“Dim ond wedyn y gallwn ni adeiladu system gyfiawnder wirioneddol sy’n canolbwyntio ar adfer ac â thosturi wrth ei gwraidd.”

“System gyfiawnder decach”

“Mae’r Ceidwadwyr wedi dewis rhoi eu hawch am bŵer a rheoli o flaen yr hyn sydd orau i Gymru,” meddai Jane Dodds AoS, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, sy’n ymgyrchu dros Deyrnas Unedig decach a ffederal.

“Byddai rhoi pwerau dros gyfiawnder i’r Senedd yn caniatáu i ni ymateb yn well i’r materion penodol sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru.

“Gyda’r pwerau hyn gallwn ni greu system gyfiawnder droseddol decach, sy’n canolbwyntio ar adfer, a datblygu strategaeth i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn troseddau cefn gwlad.

“Mae datganoli cyfiawnder wedi’i argymell ers tro gan sawl Comisiwn ac arbenigwyr cyfreithiol – byddai’n gwneud Cymru’n gyfartal â chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig.

“Ond, yn syml, dyw Boris Johnson ddim yn poeni. Dyw e ond yn poeni am wneud beth bynnag mae’n gymryd i gael mwy o bŵer yn ei ddwylo ef a’i ffrindiau.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wastad wedi ymladd dros undeb ffederal decach, lle mae pob cenedl yn cael ei gwerthfawrogi, parchu, a’i hymbweru.

“Mae’r bleidlais ddiwethaf hon yn dangos na fydd Cymru byth yn cael statws cyfartal, na bargen deg, dan y Ceidwadwyr.

“Mater eilradd”

“Dim ond ychydig wythnosau wedi etholiad y Senedd, bydd pobol ar draws Cymru yn crafu eu pennau pam fod y pwnc yma’n cael ei drafod,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydyn ni wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd ac mae pobol eisiau clywed gan wleidyddion o bob lliw sut maen nhw am amddiffyn swyddi, sicrhau cyfleoedd newydd, a chyflwyno cynllun clir ar gyfer adferiad economaidd Cymru, nid dadl gyfansoddiadol a mynnu mwy o bwerau a gwleidyddion yn y Senedd.

“Efallai’n wir fod amser a lle i’r fath drafodaeth, ond nid dyma’r amser. Dyw’r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn ymddiheuro am sefyll dros y teuluoedd, gweithwyr a busnesau hynny a fydd yn flin, a hynny’n iawn, fod gwleidyddion sydd newydd eu hethol yn rhoi eu hegni ar fanylion datganoli yn lle achub bywoliaethau pobol.

“Dylai’r flaenoriaeth fod ar ddyfodol Cymru’n unig ar y funud – nid dadleuon diddiwedd ar ddatganoli – ac mae hyn yn fater eilradd diangen a digroeso ar adeg mor fregus yn ein hadferiad.”