Mae bron i chwarter y bobol sydd wedi marw o Covid-19 yng Nghymru wedi dal y feirws mewn ysbytai.

Yn ôl ymchwil gan Newyddion S4C, roedd 1,860 o’r rhai fu farw â Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth cyn 1 Mai eleni “yn sicr” neu’n “debygol” o fod wedi’u heintio yn yr ysbyty.

Mae’r ystadegau hyn wedi arwain at alwadau o’r newydd am ymchwiliad fydd yn edrych yn benodol ar Covid yng Nghymru.

Er bod yr ystadegau’n fwy i rai byrddau iechyd, dros y wlad mae’r nifer yn gyfystyr â 24.4% o’r holl farwolaethau Covid-19 yn y cyfnod hwnnw.

Ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, mae’r ystadegau’n dangos fod un o bob tri o farwolaethau Covid-19 yn gysylltiedig â heintio mewn ysbytai.

Os ydi claf yn profi’n bositif am Covid-19 dros 14 diwrnod ar ôl dechrau triniaeth yn yr ysbyty, yna mae’n “sicr” mai yno cawson nhw eu heintio.

Mae “tebygol” wedyn yn cyfeirio at bobol sy’n profi’n bositif rhwng saith a 14 diwrnod ers i’r claf ddechrau triniaeth yn yr ysbyty.

Atgyfnerthu pwysigrwydd ymchwiliad i Gymru

“Mae y rhain yn ystadegau trist, ac mae fy nghydymdeimladau dwysaf yn mynd at deuluoedd y bobol hyn sydd wedi marw ar ôl dal Covid yn yr ysbyty ar ôl cael eu derbyn am resymau eraill,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Trwy gydol y pandemig fe wnaethon ni weld cyfraddau pryderus o uchel yn nifer y bobol oedd wedi dal Covid mewn ysbytai ar draws Cymru, ond ar ôl y clwstwr cyntaf mawr yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, dywedodd gweinidogion Llafur wrthym ni dro ar ôl tro eu bod nhw’n dysgu gwersi a’n gweithredu mesurau cryfach.

“Fe wnaeth ein doctoriaid, nyrsys, a gweithwyr rheng flaen eraill waith anhygoel dan amgylchiadau andros o heriol, ond er gwaethaf sicrwydd gan nifer o weinidogion, mae’n amlwg fod Llywodraeth Lafur Cymru heb ddysgu gwersi a bod mesurau atal heb eu cryfhau.

“Mae’r darganfyddiad hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau ymchwiliad Covid sy’n benodol i Gymru.

“Roedd y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau yma, a dylen nhw gael eu rhoi dan chwyddwydr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yma yng Nghymru.

“Ni all gweinidogion guddio oddi wrth y fath broses gan fod hynny’n ddyledus i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid er mwyn sicrhau fod ganddyn nhw atebion, a bod Cymru’n dysgu gwersi o’r deunaw mis diwethaf ac yn hollol barod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.”

“Ymchwilio yn drylwyr”

“Trwy gydol y pandemig, mae nifer fawr o bobl wedi marw ar ôl dal yr haint erchyll yma. Mae ein meddyliau yn dal i fod gyda’u teuluoedd a’u hanwyliaid,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn datganiad.

“Mae coronafeirws yn feirws sydd â’r gallu i ledaenu yn gyflym, ac rydym yn gwybod y gall pobl ei basio ymlaen i eraill heb ddangos unrhyw symptomau o gwbl. Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed trwy gydol y pandemig i wneud popeth y gallai i gadw’r feirws o ysbytai ac i amddiffyn pobl yn eu gofal, yn aml dan amgylchiadau anodd iawn.

“Mae mesurau caeth ynglŷn â rheoli a cheisio atal lledaeniad yr haint wedi eu dilyn, a ryden ni wedi cyhoeddi canllawiau helaeth yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol ac ymweld ag ysbytai. Mae profi wedi bod yn eang o fewn y Gwasanaeth Iechyd; roedd staff gyda’r cyntaf i dderbyn brechlyn ac mae cannoedd o filiynau o eitemau o PPE wedi eu defnyddio i amddiffyn staff  a chleifion.

“Er yr holl fesurau yma, yn anffodus, mae heintio wedi digwydd mewn ysbytai. Yn drist iawn mae pobol wedi marw ar ôl dal coronafeirws mewn ysbytai. Mae pob achos yn cael eu hymchwilio yn drylwyr”.