Mae ffigyrau’n dangos bod cyfanswm marwolaethau wythnosol Covid-19 ymysg preswylwyr cartrefi gofal wedi disgyn i’w lefel isaf ers i’r firws gyrraedd gwledydd Prydain y llynedd.

Dim ond 10 o bobl fu farw yng Nghymru a Lloegr rhwng y 19 a 25 Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’n codi cyfanswm nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal i 42,556 yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ffigwr hynny’n cynnwys marwolaethau preswylwyr mewn mannau tu allan i gartrefi gofal hefyd.

Yn gyffredinol

Cafodd 99 marwolaeth yn gyffredinol eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yr un wythnos – gostyngiad o 3% ar yr wythnos flaenorol.

Dyma’r pedwerydd gwaith mewn pum wythnos i’r cyfanswm fod o dan 100, gyda’r cyfanswm isaf yn 84 marwolaeth rhwng y 12 a 18 Mehefin.