Bydd menyw â Syndrom Down yn ymddangos yn yr Uchel Lys er mwyn herio’r ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i fabis â’r cyflwr gael eu herthylu hyd at yr enedigaeth.
Mae Heidi Crowter, sy’n 26 oed ac yn dod o Coventry, yn herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan ddweud fod y gyfraith yn “gwahaniaethu’n llwyr”.
Mae Maire Lea-Wilson, cyfrifydd o Lundain sydd â mab a’r syndrom, yn herio’r Llywodraeth hefyd, yn y gobaith o gael gwared ar “achos penodol a anghydraddoldeb yn y gyfraith”.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mae’n rhaid cael erthyliad o fewn 24 wythnos, ond gellir caniatáu erthyliadau hyd at yr enedigaeth os oes “risg sylweddol y gallai’r plentyn ddioddef abnormalrwydd corfforol neu feddyliol fel ei fod yn ddifrifol dan anfantais pe bai’n cael ei eni”, sy’n cynnwys Syndrom Down.
Yn ystod gwrandawiad deuddydd yn yr Uchel Lys, bydd cyfreithwyr sy’n cynrychioli Heidi Crowter a Maire Lea-Wilson yn dadlau fod y gyfraith yn “gwahaniaethu’n anghyfreithlon”.
Mae disgwyl i’r ddwy gynnal gwrthdystiad tu allan i Lysoedd Cyfiawnder Brenhinol Llundain ar ddiwrnod cyntaf yr achos heddiw (6 Gorffennaf), gyda chefnogaeth y grŵp ymgyrchu Don’t Screen Us Out.
“Gwahaniaethu llwyr”
“Mae’r gyfraith yn dweud na ddylai babis gael eu herthylu hyd at yr enedigaeth, ond os ydyn nhw’n darganfod bod gan fabi Syndrom Down gellir ei erthylu reit hyd at yr enedigaeth,” meddai Heidi Crowter mewn datganiad cyn y gwrandawiad.
“Dyma’r gyfraith bresennol yn y Deyrnas Unedig, dw i ddim yn meddwl ei fod e’n deg.
“Mae pobol fel fi’n cael ein hystyried yn “ddifrifol dan anfantais”, ond dw i’n meddwl fod defnyddio’r frawddeg honno mewn cymal mewn cyfraith erthyliad wedi dyddio.
“Dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobol ag Anableddau’n ddiweddar y dylai’r Deyrnas Unedig newid eu cyfraith erthyliad er mwyn gwneud yn siŵr fod pobol fel fi ddim yn cael eu gwahaniaethu oherwydd ein hanableddau, ond dyw’r Llywodraeth heb newid y gyfraith.
“Dw i’n gobeithio y gwnawn ni ennill. Ni ddylai pobol gael eu trin yn wahanol oherwydd eu hanableddau, mae’n wahaniaethu llwyr.”
“Trin yn deg a chyfiawn”
“Mae gen i ddau fab dw i’n eu caru a’u parchu’n gydradd, ond dyw’r gyfraith ddim yn eu parchu’n gydradd,” meddai Maire Lea-Wilson.
“Mae hyn yn anghywir ac felly rydyn ni eisiau trio newid hynny.
“Mae fy nghymhelliant dros weithredu’n gyfreithiol gyda Heidi wedi bod yn syml ers y dechrau: fel mam, mi wnâi bopeth alla’i i sicrhau fod fy mab, Aidan, yn cael ei drin yn deg a chyfiawn.
“Dyw’r achos yma ddim yn ymwneud â’r pethau cywir a’r anghywir ynghylch erthyliad.
“Mae e wastad wedi ymwneud â chael gwared ag achos penodol o anghydraddoldeb yn y gyfraith, lle mai’r terfyn cyfreithiol ar gyfer erthylu plentyn heb anabledd yw 24 wythnos, ond rydych chi’n gallu cael erthyliad reit hyd at y cyfnod llawn gyda phlentyn sydd ag anabledd.
“Rydyn ni’n dweud ein bod ni’n byw mewn cymdeithas sy’n parchu’r rhai ag anableddau, fod pawb yn haeddu cyfle teg a chydradd ar fywyd, er gwaethaf eu statws abledd.
“Mae’r gyfraith hon yn tanseilio’r naratif. Oes yna wir le iddi yn 2021?”
“Gwahaniaethu mewn dwy ffordd”
Mae Prif Esgob yr Eglwys yn Lloegr dros iechyd a gofal cymdeithasol, Esgob Newcastle, ac Archesgob Efrog ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r galwadau.
“Mae’r Eglwys yn Lloegr wedi dadlau yn gyson fod y gyfraith ar erthyliad yn gwahaniaethu mewn dwy ffordd,” medden nhw mewn datganiad.
“I ddechrau, mae’n caniatáu i erthyliadau gael eu caniatáu ar sail anabledd yn unig.
“Yn ail, mae’n cael gwared ar y terfyn amser 24 wythnos ar erthyliad mewn achosion lle mae anabledd.
“Dydyn ni ddim yn credu fod posib cyfiawnhau’r fath wahaniaethu, sy’n seiliedig ar y tebygolrwydd fod anabledd.
“Mae yna rywbeth eithriadol o annifyr yn ein hagwedd anghyson bresennol sy’n dweud fod pobol sy’n byw ag anabledd yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ond fod anabledd ynddo ei hun yn cynrychioli sail ddilys ar gyfer erthyliad.”
Mae’r gwrandawiad o flaen yr Arglwydd Ustus Singh a’r Ustus Lieven wedi dechrau ers 10:30 fore heddiw, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod i gasgliad brynhawn fory (7 Gorffennaf).