Fe fu mwy o farwolaethau nag oedd genedigaethau yn y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn ddiwethaf, a hynny am y tro cyntaf mewn bron i hanner canrif.

Awgryma ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod yna gyfanswm o 689,629 o farwolaethau wedi eu cofnodi yn 2020 tra cofnodwyd 683,191 o enedigaethau – gwahaniaeth o 6,438.

Mae’r pandemig yn golygu bod mwy o farwolaethau wedi eu cofrestru yn y DU yn 2020 nag unhryw flwyddyn arall ers y Ryfel Byd Cyntaf.

Y tro diwethaf i’r gyfradd o farwolaethau fod yn uwch na’r gyfradd geni oedd ym 1976.

Serch hyn, nid yw’n golygu bod maint poblogaeth y DU wedi lleihau gan fod mwy o bobl ar y cyfan wedi mewnfudo i’r wlad nag sydd wedi allfudo.

Amcangyfrifa’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod poblogaeth y DU yn 67.1 miliwn erbyn canol 2020 – cynnydd o 284,000 ers canol 2019 – pan oedd poblogaeth y DU yn 66.8 miliwn.