Mae’r 22 o deithwyr a chwe aelod o griw oedd ar fwrdd awyren aeth ar goll, yn anhebygol o fod wedi goroesi, yn ôl adroddiadau o Rwsia.
Fe ddiflannodd yr awyren Antonov An-26 oddi ar y system radar gan golli cysylltiad wrth deithio o ddinas Petropavlovsk-Kamchatsky i dref Palana yn ardal ddwyreiniol y wlad.
Mae gweddillion bellach wedi eu canfod 3 milltir o’r maes awyr ble’r oedd disgwyl i’r awyren lanio.
Dywedodd llywodraethwr Kamchatka, Vladimir Solodov, wrth asiantaeth newyddion Interfax fod darn mawr o’r awyren wedi ei ganfod ar arfodir môr Okhotsk, tra bod gweddillion eraill wedi eu canfod yn y môr.