Mae Amgueddfa Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Kids in Museums yng nghategori ‘Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd’.
Daw hyn ar ôl i’r Amgueddfa gynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Amgueddfa Dros Nos: Gartref’.
Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiadau wedi’i selio ar eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru, gan gynnwys dinosoriaid a’r byd naturiol.
Mae elusen Kids in Museums wedi cynnal gwobr flynyddol am 15 mlynedd, gan gydnabod y safleoedd treftadaeth sydd mwyaf cyfeillgar i deuluoedd yn y Deyrnas Unedig a dyma’r unig wobr sy’n cael ei farnu gan deuluoedd.
Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, gwahoddwyd teuluoedd i bleidleisio dros eu hoff atyniad a’u hoff weithgaredd digidol ar wefan Kids in Museums.
Yna, aeth panel o arbenigwyr amgueddfeydd trwy gannoedd o enwebiadau i restr fer o 20 o atyniadau treftadaeth.
Mae Amgueddfa Cymru yn cystadlu yn erbyn pedair amgueddfa arall yn y categori Gweithgaredd Digidol Gorau.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref.
“Pleser”
“Rydym wrth ein bodd yn cael ein henwebu yn y categori hwn,” meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i addasu i heriau’r 18 mis diwethaf er mwyn gallu dod â’n digwyddiadau poblogaidd i’n hymwelwyr allu mwynhau’n ddigidol, o gartref, ble bynnag y bo hynny.
“Bu’n bleser gallu dod â gwên i blant o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt yn Affrica, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd.”