Bydd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 6).

Yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford, bwriad y cyfreithiau newydd yw creu Cymru “gryfach, wyrddach a thecach”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pum deddf newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y Senedd hon, yn ogystal ag unrhyw reoliadau eraill y bydd eu hangen i reoli’r pandemig.

Mae’r deddfau hyn yn cynnwys:

  • Sefydlu system newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru.
  • Bil amaeth newydd a chreu system newydd o daliadau ffermio yng Nghymru, gan wobrwyo ffermwyr am eu hymateb i argyfwng yr hinsawdd ac argyfyngau naturiol.
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn sicrhau hawliau gweithio teg i weithwyr.
  • Bydd Bil i alluogi newidiadau i dreth ddatganoledig er mwyn ymateb i ddigwyddiadau allai gael effaith ar faint o dreth sy’n cael ei gasglu.
  • Bil Cydgyfnerthu cyntaf, i wneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.

Is-ddeddfwriaeth

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno rheoliadau newydd neu is-ddeddfwriaeth.

Un o’r rhain fydd gwneud “newidiadau radical” i gwricwlwm ysgolion Cymru, er nad oes manylion wedi’u cyhoeddi hyd yma.

Bydd deddf hefyd yn cael ei chyflwyno i sicrhau mai 20mya yw’r terfyn cyflymdra safonol mewn ardaloedd preswyl ac i wahardd parcio ar y pafin lle bo modd.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu deddfu er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i ddysgwyr hyd at 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Ein rhaglen uchelgeisiol yw’r cam cyntaf ar daith ddeddfwriaethol y Senedd hon,” meddai Mark Drakeford.

“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn canolbwyntio ar Gymru gryfach, wyrddach a thecach, ac mae’n amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy, sy’n gofyn am ddeddfwriaeth.

“Mae hyn yn cynnwys diddymu’r defnydd o blastig sy’n cael ei ddefnyddio unwaith ac yna’n cael ei daflu fel sbwriel; cyflwyno ein Deddf Aer Glân a mynd i’r afael â diogelwch adeiladau i sicrhau na fydd sefyllfa fel un Grenfell byth yn digwydd eto.”

“Gweithio er budd pobol Cymru”

“Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd Cymreig,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru.

“Byddwn yn sicrhau bod y cyfreithiau newydd yn gweithio er budd pobol Cymru yn eu bywydau bob dydd – o ran eu hawliau yn y gwaith, eu gallu i rentu tŷ a sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb.”