Mae Llywodraeth Japan wedi ardystio bod caws gan gwmni Calon Wen o Sir Benfro yn organig.

Dyma’r unig gaws ar draws Ewrop i dderbyn statws o’r fath yn y wlad, wedi iddyn nhw dynhau ar safonau cynnyrch sy’n cael ei fewnforio.

Bellach, rhaid i gynnyrch tramor sy’n cael ei alw’n ‘organig’ dderbyn sêl bendith y JAS (Japanese Agricultural Standards).

Grŵp o 25 o ffermydd teuluol organig yw Calon Wen, sydd â ffermydd ledled Cymru.

Maen nhw wedi bod yn allforio caws i Asia ers 2017, gan gydweithio â chwmni Mineichi Group.

Adeg Cwpan Rygbi’r Byd 2019, penderfynodd y bartneriaeth werthu cynnyrch yn Japan.

‘Creu perthnasau’

Dywed Stuart McNally, Rheolwr Datblygu Busnes a Gwerthiant Calon Wen, eu bod wedi cael sylw pobol o Japan yn ystod digwyddiad BlasCymru ym Mawrth 2019.

“Llwyddom ni i gysylltu a chreu perthnasoedd gyda chwsmeriaid o Japan, tra hefyd yn mapio strategaethau i fentro i’r farchnad,” meddai.

“Yna o fis Medi 2019, dechreuodd stocwyr manwerthu Calon Wen yn Japan ehangu’n raddol.

“Maen nhw bellach ar gael mewn tua 100 o leoliadau ac ar-lein.

“Yn ogystal â chyflenwi manwerthwyr yn uniongyrchol, mae cynnyrch Calon Wen hefyd yn cael ei ddosbarthu gan fasnachwyr cynnyrch llaeth mawr o Japan.”

‘Mae llwyfan cryf ar gyfer twf pellach’ 

Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, wedi cymeradwyo llwyddiant Calon Wen.

“Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd, yn ogystal â chynnal ac adeiladu ar y rhai presennol, yn hanfodol ar gyfer ffyniant diwydiant bwyd a diod Cymru yn y dyfodol,” meddai mewn datganiad.

“Mae gan Japan boblogaeth o 127m, ac mae’n un o’r marchnadoedd defnyddwyr cyfoethocaf a mwyaf aeddfed yn y byd.

“Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fusnesau bwyd a diod Cymru, nid yn unig arddangos eu cynnyrch o’r radd flaenaf i’r byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

“Gydag enw da a tharddiad Cymru, mae llwyfan cryf ar gyfer twf pellach.”

Bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar Hydref 27-28.

Ymysg y digwyddiadau, bydd cynhadledd bwyd a diod a sesiynau sy’n trafod cynaliadwyedd.