Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer Comisiwn fydd yn edrych ar ddyfodol perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth Mick Antoniw rannu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn a Chonfensiwn Cyfansoddiadol mewn araith i Ganolfan Llywodraethiant Cymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 5).
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd wrth golwg360 fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “colli’r plot”.
Dywedodd Mick Antoniw bryd hynny eu bod nhw’n “symud i’r dde ac yn ceisio hyrwyddo cenedlaetholdeb Anglo-Brydeinig”, ond mae e wedi dweud ei fod e’n credu mewn “Cymru gref mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus”.
Mae e’n bwriadu lansio’r Comisiwn Dinasyddion yn yr hydref, gyda’r bwriad o “ddechrau sgwrs genedlaethol wirioneddol ynghylch dyfodol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig”.
Bydd panel o arbenigwyr yn cynorthwyo’r Comisiwn, a bydd rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad gyda “argymhellion a chasgliadau” o fewn 18 i 24 mis.
Tasg y comisiwn, a fydd yn cynrychioli’r amrywiaeth yn ein cymdeithas a’n cymunedau, fydd adnabod a dod i gasgliadau ynghylch ein gwerthoedd a pha fath o Gymru rydyn ni am fyw ynddi, meddai Mick Anthoniw.
‘Cysylltu â phobol Cymru’
“Rydyn ni’n cydnabod, wrth gwrs, y gallai’r fath newid sylfaenol ond ddigwydd yng nghyd-destun diwygiad cyfansoddiadol llawer ehangach,” meddai Mick Antoniw.
“Dyna pam ein bod ni angen parhau i drafod a dadlau ynghylch y materion hyn.
“Does gennym ni ddim yr atebion i gyd. Dydyn ni erioed wedi honni hynny.
“A dyna un o’r rhesymau, yn ei dro, dros ein hymrwymiad i sefydlu ein Comisiwn a Chonfensiwn Cyfansoddiadol ein hunain, er mwyn cysylltu â phobol Cymru i archwilio llywodraethiant Cymru, datganoli a’n perthynas yn y dyfodol â’r Deyrnas Unedig a’r egwyddorion y dylai hynny fod yn seiliedig arnyn nhw.”
Materion i’w hystyried
“Rydyn ni eisiau cysylltu gyda dinasyddion a chymdeithas ddinesig,” meddai wedyn.
“Yn benodol rydyn ni eisiau estyn at y rheiny a fyddai, efallai, ddim yn cyfrannu at y fath drafodaeth fel arall, at bobol a chymunedau sydd wedi’u datgysylltu, i raddau helaeth, rhag gwleidyddiaeth neu sydd wedi dod yn amheus ynghylch ei berthnasedd i’w bywydau a bywydau eu teuluoedd a’i allu i wneud gwahaniaeth.
“Byddwn ni’n annog y Comisiwn i feddwl am sut allai ei waith gefnogi’r saith nod llesiant, sy’n cael eu cyflwyno yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gweithredu mewn ffordd sy’n gyson â’r pum ffordd o weithio yn y Ddeddf.
“Byddwn ni’n annog y Comisiwn i adnabod a dysgu gan yr esiamplau gorau o ymgysylltu â dinasyddion, a bod yn arloesol yn y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â’r dasg.
“Rhaid iddo fod yn Gomisiwn y bobol yn cysylltu â sgwrs y bobol, ymgysylltiad llawr gwlad gwirioneddol. Sut rydyn ni’n llwyddo i wneud hynny fydd yr her fwyaf.”
Bydd y panel arbenigol yn cynnig gwybodaeth ac ystadegau, tra bo’r Comisiynwyr, fydd â’r sgiliau ymgysylltu fydd eu hangen, yn canolbwyntio ar y sgyrsiau.
Y cam cyntaf fydd penodi Cadeirydd, neu gyd-gadeiryddion, a bydd Mick Antoniw yn manylu mwy ar hynny yn y Senedd yn fuan.
‘Undeb dan straen’
“Dyw Undeb y Deyrnas Unedig heb fod dan gymaint o straen yn ystod fy mywyd,” meddai Mick Antoniw.
“Fy marn, a barn Llywodraeth Cymru, yw ein bod ni am i’r Undeb weithio’n well er budd pobol a chymunedau Cymru, a bydd rhaid cael diwygiad radical er mwyn i hynny ddigwydd.”
Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru yn cwyno bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fwriadol anwybyddu a dirmygu datganoli, gan ymddwyn fel mai nhw sy’n gyfrifol am lywodraethu Cymru, ac aeth Mick Antoniw yn ei flaen i drafod hynny yn ei araith.
“Yn lle perthynas adeiladol a chydweithiol yn seiliedig ar degwch, cyfiawnder cymdeithasol a datganoli, yr hyn rydyn ni’n ei weld gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yw undeboliaeth sy’n gynyddol Anglo-centric.
“Undeboliaeth o’r top i lawr sy’n credu y bydd y broblem yn syml yn diflannu os ydyn nhw’n gweiddi’n ddigon uchel ac yn chwifio ychydig o faneri o amgylch.
“Llywodraeth sy’n gwadu [y sefyllfa].”
‘Siarad â swigen’
“Unwaith eto mae gweinidogion Llafur yn siarad â swigen, yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion go iawn sy’n effeithio bywydau pobol bob dydd ar draws Cymru,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar y Cyfansoddiad.
“Mae teuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru am i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar adfer o’r pandemig, nid treulio amser ac egni ar gonfensiwn cyfansoddiadol diangen.
“Yn lle dechrau ffrae gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a mynnu mwy o bwerau, dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi’n barod i amddiffyn swyddi, mynd i’r afael â rhestrau aros sy’n annerbyniol o hir a gwella ein systemau addysg yng Nghymru.”