Mae adrodiadau seiciatryddol yn cael eu paratoi yn achos myfyriwr meddygol sydd wedi’i gyhuddo o daflu asid yn wyneb meddyg ifanc.

Mae Milad Rouf o Gaerdydd wedi bod gerbron Llys y Goron Lewes yn Sussex, wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol ar ôl defnyddio asid sylffiwrig gyda’r bwriad o losgi neu achosi anabledd.

Mae wedi’i gyhuddo o ymosod ar y ddynes yn Brighton ar Fai 20, a bu’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty am driniaeth am anafiadau allai fod wedi newid ei bywyd.

Mae’r achos wedi’i ohirio er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi.

Bydd gwrandawiad pellach ar Awst 2.

Cafodd Milad Rouf ei gadw yn y ddalfa tan hynny.