Mae gyrrwr lori wnaeth ladd dyn mewn gwrthdrawiad wedi cael ei garcharu am dair blynedd.

Fe wnaeth David Tony Platt, o Swydd Amwythig, gyfaddef ei fod wedi bod ar ei ffôn yn ystod ei siwrne.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener (Gorffennaf 2) ar ôl pledio’n euog i achosi marwolaeth Benjamin Partis, 38 oed o Aberteifi, mewn gwrandawiad blaenorol.

Clywodd y llys fod David Tony Platt wedi bod yn gyrru lori oedd yn cario 30 tunnell o fwyd anifeiliaid pan fethodd ag ymateb i gerbydau oedd wedi stopio o’i flaen.

Aeth i mewn i lwybr traffig ar yr A487 ym Mhentregât yng Ngheredigion ar ddydd Llun, Mehefin 8.

Fe wnaeth lori David Tony Platt wrthdro â Ford Transit Benjamin Partis, fu farw yn y fan a’r lle, gyda theithiwr arall, John Noble, yn dioddef anafiadau difrifol hefyd.

Cafodd Platt ei ddedfrydu hefyd am achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Troseddau

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi cyfaddef yn ei gyfweliad heddlu ei fod wedi defnyddio ei ffôn symudol yn ystod ei siwrne, gan dynnu lluniau, gwneud galwadau ffôn a gwneud chwiliad ar y rhyngrwyd.

Roedd hefyd yn teithio yn gyflymach na’r terfyn cyflymder cyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd datganiad personol dioddefwr a gafodd ei ddarllen ar ran Sophie Hickinbotham, dyweddi Benjamin Partis oedd yn feichiog pan fu farw, mai dweud wrth blant Benjamin fod eu tad wedi marw oedd y peth anoddaf y bu’n rhaid iddi ei wneud erioed.

“Ni ddylai plentyn 13 oed orfod cynllunio angladd eu tad; ni ddylai plentyn pedair oed glywed na fyddan nhw byth yn gallu gweld eu tad eto,” meddai yn y datganiad.

“Ni ddylai plentyn dwy oed orfod chwythu cusan i’r awyr er mwyn dal i allu dweud nos da wrth eu tad.

“Ni ddylai fod yn rhaid i fabi gael ei eni heb erioed allu cael cwtsh cynnes na hyd yn oed gwrdd â’i dad oherwydd gweithredoedd dieithryn.

“Yn anffodus, dyna’r realiti i blant Ben.”