Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru’n “gynyddol hyderus” na fydd y don hon o Covid-19 yn achosi’r un lefel o salwch difrifol, a bod hynny’n bennaf seiliedig ar lwyddiant y rhaglen frechu.
Fodd bynnag, fe wnaeth hi atgoffa pobol nad ydyn nhw’n “anorchfygol”, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn.
Erbyn hyn mae naw ymhob 10 oedolyn wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, a dau ymhob tri wedi cael y ddau ddos.
Ar hyn o bryd, mae 95 achos o Covid-19 i bob 100,000 o bobol yng Nghymru, ac mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 104 o bobol yn yr ysbyty â Covid-19.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y bobol sydd yn yr ysbyty â Covid-19 yn y dyddiau diwethaf, ond maen nhw’n credu bod y brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i ysbytai.
Mae Cymru tua phythefnos ar ôl y sefyllfa yn yr Alban a Lloegr, meddai Eluned Morgan, ac mae nifer yr achosion yn parhau i gynyddu, yn enwedig yn y gogledd.
Yn ystod y gynhadledd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 5), dywedodd Dr Andrew Goodall, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Cymru, fod y rhaglen frechu yng Nghymru sawl wythnos ar y blaen i’r rhaglen yn Lloegr a’r Alban, a bod rhaid ystyried hynny hefyd wrth weld beth fydd y berthynas rhwng cynnydd mewn achosion a derbyniadau i ysbytai.
‘Dilyn y data’… nid Lloegr
“Dydy’r coronafeirws ddim wedi diflannu, mae e dal efo ni,” meddai Eluned Morgan, gan fynd yn ei blaen i bwysleisio pwysigrwydd cymryd dau ddos y brechlyn.
Wrth gyfeirio at y ffaith y byddai Boris Johnson yn cyhoeddi pa fesurau fydd yn cael eu llacio yn Lloegr heno, dywedodd Eluned Morgan: “Bydd Boris Johnson yn gwneud yr hyn sy’n iawn i Loegr yn ei farn ef, a byddwn yn gwneud yr hyn sy’n iawn i ni yma yng Nghymru.”
Pwysleisiodd y byddan nhw’n dilyn y data wrth ystyried beth fydd y camau nesaf, ond na fyddan nhw’n gosod dyddiadau.
Gan gadw at y drefn o adolygu cyfyngiadau Covid-19 Cymru bob tair wythnos, bydd yr argymhellion nesaf yn cael eu gwneud yr wythnos nesaf, ddydd Mercher 14 Gorffennaf, meddai.
“Rydyn ni’n glir ein mewn sefyllfa anodd, mae achosion yn cynyddu’n sydyn dal i fod yng Nghymru, yn enwedig i bobol sydd heb gael eu brechu, maen nhw’n agored i niwed.”
Aeth Eluned Morgan yn ei blaen wedyn i ddweud bod y perygl i bobol sydd heb gael eu brechu yn cynyddu wrth i gyfyngiadau lacio fwyfwy.
“Ond wedi dweud hynny, gan ein bod ni’n gweld gwanhau yn y cysylltiad [rhwng achosion a derbyniadau i ysbytai] yna mae’n rhaid i ni ddeall fod pethau niweidiol eraill mae’n rhaid i ni eu hystyried, yn benodol y sefyllfa iechyd meddwl, y sefyllfa economaidd, y sefyllfa gymdeithasol,” ychwanegodd.
“Rhaid rhoi’r holl bethau yma yn y mix wan, byddwn ni’n ystyried y rhain yn yr ychydig ddyddiau nesaf.
“Ein prif flaenoriaeth yw trio cadw pobol yn ddiogel, ond wrth mae’n rhaid i ni ddeall ein bod ni am ddysgu byw gyda’r salwch hwn ac ein bod ni am orfod addasu fel cymdeithas i sefyllfa lle byddwn ni’n agored i’r amrywiolyn hwn, a’r coronafeirws yn gyffredin, i ryw raddau.”
“Methu gwneud rhagfynegiadau”
Yn y cyfamser, dywedodd Eluned Morgan nad yw hi’n bosib iddi ddweud â sicrwydd na fydd cyfnod clo arall yn y dyfodol.
“Fydda i ddim yn rhoi sicrwydd mai hwn fydd yr olaf, alla i ddim gwneud rhagfynegiadau felly,” meddai.
“Dw i’n synnu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gwneud y math yna o ragfynegiadau.”
Fodd bynnag, dywedodd y bydd yna bwynt pan fydd yn rhaid i bobol wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain, ond y bydd Llywodraeth Cymru yn creu canllawiau ynghylch mesurau.
Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi heno na fydd mygydau’n orfodol yn Lloegr o Orffennaf 19, ac wrth ystyried hynny, dywedodd Eluned Morgan fod mygydau yn amddiffyn pobol eraill yn ogystal â ni ein hunain.
“Rydyn ni dal angen gwneud penderfyniadau ar y materion hyn, a rhaid cofio bod mygydau yna i amddiffyn eraill a ni’n hunain,” meddai.
“Felly pan ydyn ni mewn sefyllfa pan ydyn ni efo pobol eraill, dychmygwch drenau er enghraifft, mewn llefydd â lot o bobol, yna mae’n rhaid i ni ystyried yn ofalus ar ba bwynt fydden ni’n caniatáu i bobol beidio â gwisgo mygydau dan yr amgylchiadau hynny.”
Cyflogau teg
A hithau’n ben-blwydd ar y Gwasanaeth Iechyd heddiw, mae Plaid Cymru wedi galw am gyflogau teg i weithwyr iechyd.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyngor ynghylch rhoi codiad cyflog i weithwyr iechyd, a byddan nhw’n gwneud cyhoeddiad yn yr ychydig wythnosau nesaf, meddai Eluned Morgan.
Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Dr Andrew Goodall fod y Gwasanaeth Iechyd yn disgwyl gaeaf anodd, a hynny’n sgil pwysau arferol a fydd o bosib ychydig yn waeth na’r arfer.
Pwysleisiodd eu bod nhw’n paratoi a chynllunio at hynny, a bod yr ymdrechion yn cynnwys cynyddu’r nifer o wlâu sydd ar gael i gleifion mewn ysbytai.
- Gallwch ddarllen am gyhoeddiad Boris Johnson ar gyfer Lloegr, isod.