Mae Ofcom yn dweud nad ydyn nhw am gynnal ymchwiliad i sylwadau a gafodd eu gwneud ar y sianel GB News am y cyfyngiadau Covid.
Fe wnaeth y rheoleiddiwr darlledu dderbyn 390 o gwynion yn ystod y rhaglen oedd yn lansio’r sianel newydd, Tonight Live With Dan Wootton, ar Fehefin 13.
Roedd yn drafodaeth am ba mor effeithiol fu’r cyfyngiadau wrth fynd i’r afael â’r feirws.
Mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad yn cyfiawnhau’r penderfyniad.
“Mae ein rheolau’n caniatáu dadl fanwl ynghylch yr ymateb i’r coronafeirws, sy’n unol â’r hawl i ryddid barn,” meddai llefarydd.
“Yn ein barn ni, roedd y rhaglen hon yn cynnwys ystod o wahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai ynghylch rhinweddau ac effeithiolrwydd cyfyngiadau clo, ac roedd gwesteion yn gallu herio safbwyntiau nad oedden nhw’n cytuno â nhw.”