Mae Heddlu Dyfed-Powys yn pryderu y bydd cynnydd mewn traffig ar y ffordd wrth i bobol fynd ar wyliau yn nes at adref yn arwain at gynnydd mewn anafiadau difrifol a gwrthdrawiadau.

Daw hyn wedi i’r llu gyhoeddi ffigyrau sy’n dangos cynnydd yn nifer y damweiniau difrifol y bu’n rhaid i Unedau Plismona’r Ffyrdd ymdrin â nhw dros y tri mis diwethaf, wrth i bobol fwynhau’r llacio ar gyfyngiadau Covid-19 a’r rhyddid i deithio.

Mae’r ffigyrau hyn yn dangos bod nifer y bobol fu farw neu a gafodd eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau wedi codi’n sylweddol o saith ym mis Mawrth, i 17 ym mis Ebrill, 18 ym mis Mai a 21 ym mis Mehefin.

Ac mae swyddogion yn pryderu y bydd y duedd hon yn parhau.

“Roedd mis Mai yn fis arbennig o wael o ran y tywydd, ond er gwaethaf hyn roeddem yn dal i weld cynnydd mewn cerbydau ar ein ffyrdd wrth i bobol ddechrau mwynhau’r rhyddid i deithio eto,” meddai Tom Sharville, y Prif Arolygydd Gweithrediadau Arbenigol.

“Yn anffodus, gyda hyn daeth cynnydd mewn gwrthdrawiadau, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn parhau i godi dros yr haf wrth i fwy a mwy o bobol osgoi ansicrwydd teithio dramor ac wrth iddyn nhw, yn hytrach, fynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig.”

‘Nid ystadegau yn unig yw’r rhain’

Mynychodd swyddogion ar draws llu’r heddlu 91 o ddigwyddiadau traffig ffyrdd ym mis Mai – y ffigwr misol uchaf hyd yma eleni – gyda 14 o anafiadau difrifol wedi’u cofnodi a phedair marwolaeth.

“Yr hyn y mae angen i bob un ohonom ei gofio yw nad ystadegau yn unig yw’r rhain,” meddai wedyn.

“Mae’r marwolaethau hynny’n ymwneud â phedwar o bobol na wnaethon nhw ddod adref at eu hanwyliaid.

“Pedwar teulu a wynebodd y trawma unigryw o agor y drws i un o swyddogion yr heddlu yn dweud bod aelod o’r teulu wedi marw, a phedwar grŵp o ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr yn galaru colli rhywun yr oedden nhw yn agos atyn nhw.

“A gallen nhw fod wedi bod yn unrhyw un ohonom.”

Cadw teithwyr yn ddiogel

Mae cynlluniau plismona ar waith i gadw teithwyr yn ddiogel dros yr haf, gan gynnwys ‘Operation Darwen’ sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch beiciau modur, ac ‘Operation Snap’, sy’n caniatáu i bobol gyflwyno lluniau dash-cam o yrwyr peryglus i’r heddlu gael eu harchwilio.

Ond mae’r Prif Arolygydd Tom Sharville hefyd yn annog gyrwyr i chwarae eu rhan wrth helpu i leddfu’r pwysau ar dimau plismona’r ffyrdd.

“Yr hyn rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n ymwybodol o’r amgylchedd a gyrwyr eraill sydd ar y ffordd o’ch cwmpas, a’ch bod chi’n talu sylw bob amser,” meddai.

“Mae mwy o draffig yn golygu mwy o risg i bawb sydd ar y ffyrdd, felly peidiwch â llaesu dwylo a byddwch yn ofalus.

“Dydy ein swyddogion ddim eisiau gorfod curo ar eich drws.”