Mae Dominic Cummings yn honni bod Boris Johnson wedi dweud wrtho yn y gorffennol y byddai’n “chwerthinllyd” pe bai’n dod yn Brif Weinidog.

Daw’r honiad yn y darn blog diweddaraf gan gyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog ar wefan Substack, lle mae e wedi anelu cyfres o ymosodiadau ato yn sgil y ffordd y mae’r Llywodraeth yn gweithredu.

Mae Dominic Cummings eisoes wedi honni bod Boris Johnson wedi galw’r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, yn “hollol ff***n anobeithiol” ac y dylai fod wedi cael ei ddiswyddo am “o leiaf 20 peth” yn ystod y pandemig.

Mae Dominic Cummings yn honni mewn blog heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 5) ei fod yn gwybod fod Boris Johnson yn “anaddas i fod yn Brif Weinidog”, gan ychwanegu ei fod “yn gwybod ei fod e’n gwybod hefyd, gan ei fod wedi dweud wrthym”.

“Ar 24 Mehefin 2016 ym Mhencadlys Vote Leave, ychydig ar ôl i Cameron ymddiswyddo, fe wnaeth Boris fy nhynnu i mewn i’r ystafell fach ryfedd lle’r oedd yr ‘ymgyrch o fewn yr ymgyrch’ yn cael ei redeg. Beth nawr?” meddai.

“Dywedodd Boris wrtha i gan chwerthin, ‘Yn amlwg byddai’n chwerthinllyd i mi fod yn Brif Weinidog — ond ddim yn fwy chwerthinllyd na Dave neu George, wyt ti ddim yn meddwl?’

“Cytunais a’i atgoffa o brif elfennau’r fargen yr oeddem wedi ei tharo gyda (Michael) Gove ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.”

Pen ac ysgwyddau Dominic Cummngs mewn het wlan lwyd

Cummings yn honni fod Johnson wedi disgrifio Hancock fel ‘hollol f****** anobeithiol’

Dominic Cummings, cyn brif ymgynghorydd Boris Johnson, wedi honni fod y Prif Weinidog wedi rhegi wrth ddisgrifio Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd
Dominic Cummings

Dominic Cummings yn dweud y dylai Matt Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo am “o leiaf 20 peth”

Mae Cummings hefyd wedi dweud ei fod yn “fethiant anferth” ar ei ran i beidio â chynghori’r Prif Weinidog i anghofio am imiwnedd torfol yn gynharach