Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y dylai’r penderfyniad i ymestyn mesurau i warchod y diwydiant dur arwain at ystyried effaith cytundebau masnach fydd yn caniatáu i fwyd rhad gael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu bod nhw am ymestyn mesurau i warchod y diwydiant dur rhag mewnforion rhad yr wythnos ddiwethaf.
Roedd y diwydiant dur wedi disgrifio’r cynllun i gael gwared ar y tariffau fel “gwallgofrwydd llwyr”, gan rybuddio y byddai cynnydd mewn mewnforion yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant yn y Deyrnas Unedig.
Gan gyfeirio at y cytundeb masnach ag Awstralia, a chynlluniau i arwyddo cytundebau tebyg gyda gwledydd eraill, dywed Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, “fod y dywediad “gwallgofrwydd llwyr” yn berthnasol i gamau fyddai’n agor ein marchnad i fwyd rhad sydd wedi’u cynhyrchu i safonau is hefyd”.
Dywed y byddai’r fath gytundeb yn bygwth sicrwydd bwyd y Deyrnas Unedig.
‘Dim i’w ofni’
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, does gan ffermwyr na chynhyrchwyr bwyd ddim i’w ofni, gan fod prisiau cig eidion Awstralia yn uwch na phrisiau yn fan hyn ar y funud, sy’n golygu eu bod nhw’n annhebygol o ddefnyddio unrhyw gwota sy’n cael ei osod arnyn nhw.
Byddai’r cytundeb yn golygu bod y cwota ar gig eidion o Awstralia yn cynyddu naw gwaith yn fwy yn syth, 29 gwaith yn fwy mewn deng mlynedd, a 45 gwaith yn fwy dros 15 mlynedd.
O ran cig oen, byddai’r cwota ar fewnforion yn dyblu yn syth, yna chwe gwaith yn fwy o fewn deng mlynedd, a naw gwaith yn fwy mewn pymtheg mlynedd.
‘Arbennig o niweidiol’
“Byddai’r fath gytundebau’n arbennig o niweidiol i ardaloedd gwledig lle mae swyddi’n ymwneud â ffermio a chadwynau cyflenwi amaethyddol yn cyfrannu at gyfran uchel o’r gweithlu, ac yn gyfraniad amhrisiadwy i’n cymdeithas a’n diwylliant,” meddai Glyn Roberts.
“Gellir disgrifio arwyddo cytundebau masnach fydd yn cynyddu ein dibyniaeth ar fwyd wedi’i fewnforio, ddeuddeg mis yn unig ar ôl i’r pandemig amlygu ein breuder pan mae systemau cyflenwi bwyd y byd yn newid, fel gwallgofrwydd llwyr.
“Mae’n wir dweud fod pris cig eidion Awstralia’n uwch na phris ein cig eidion ni ym mis Ionawr 2020, a’i fod wedi aros yn uchel, ond yn y deunaw mis blaenorol roedd eu prisiau nhw’n gyson ia nag ein rhai ni, ac mae’r un yn wir am brisiau eu cig oen nhw.
“Mae cynhyrchwyr yn Awstralia yn elwa o gostau cynhyrchu llawer is yn sgil nifer o ffactorau, gan gynnwys safonau is.
“Golyga hyn, dros y ddau ddegawd diwethaf fod ein rhaglen gwota wedi bod yn rhwystr hanfodol i atal ein marchnad a phrisiau cynnyrch fferm rhag cael eu tanseilio gan gynnyrch wedi’u mewnforio.
“Rhaid i’r Aelodau Seneddol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu o fewn buddion eu hetholwyr a buddion hirdymor y Deyrnas Unedig er mwyn osgoi newid y cwota, a fyddai’n cael effaith niweidiol ar ein diwydiannau craidd – mae hyn mor wir i’n bwyd ac ein ffermio ag i ddur.”