Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn mesurau i ddiogelu’r diwydiant dur.

Bwriad y mesurau yw amddiffyn y diwydiant rhag cynnyrch rhad sy’n cael ei fewnforio, a bydd y mesurau diogelu newydd yn helpu dur y Deyrnas Unedig i gystadlu â chynnyrch o dramor.

Ar yr unfed awr ar ddeg, fe wnaeth Liz Truss, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, gyhoeddi ei bod hi’n derbyn argymhellion yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach – gan ymestyn 10 o’r 19 mesur diogelu dur am flwyddyn.

Er bod gwleidyddion ac arweinwyr y diwydiant dur yn croesawu’r estyniad, mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Uno’r Undeb wedi dweud bod rhaid cael cynllun ar frys er mwyn cael sicrwydd a sefydlogrwydd.

“Mewn blwyddyn arall, bydd y bygythiad o fewnforion yn dinistrio swyddi’r Deyrnas Unedig yn ôl,” meddai Steve Turner.

“Ni all dur y Deyrnas Unedig hercian ei ffordd o argyfwng i argyfwng fel hyn.

“Rydyn ni angen cynllun ar frys, a chymorth gan y Llywodraeth er mwyn cael sefydlogrwydd a sicrwydd i’r sector hwn sy’n hanfodol yn strategol.”

“Hanes hir a balch”

“Ers dod yn Ysgrifennydd Economi Cymru, rwy’ wedi egluro i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod ymestyn y mesurau diogelu dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu diwydiant dur y Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething.

“Mae penderfyniad unfed awr ar ddeg Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar ein pryderon ni a phryderon y diwydiant, drwy ymestyn y mesurau diogelu hanfodol hyn am flwyddyn, i’w groesawu’n fawr.

“Mae gan y diwydiant dur hanes hir a balch yn ngwead diwydiannol Cymru ac mae’n parhau i fod yn rhan hanfodol bwysig o’n heconomi.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan y diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru.”

“Hwb” i ddur Cymru

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad hefyd, yn ogystal â’r cyhoeddiad bod Nissan am ehangu eu safle yn y Sunderland – yn hanesyddol, mae tua hanner y dur sy’n cael ei ddefnyddio gan Nissan yn Sunderland yn dod o’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot.

“Mae’r cyhoeddiadau hyn yn hwb i’w groesawu ar gyfer dur Cymru,” meddai Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae ymestyn y mesurau diogelu yn hanfodol mewn amgylchiadau economaidd heriol, ac mae gweinidogion Ceidwadol yn benderfynol o amddiffyn sector dur Cymru a sicrhau fod y diwydiant yn gallu cystadlu ar faes teg.

“Ac fel hwb pellach – er gwaethaf proffwydoliaethau llwm Brexit – mae gan gynlluniau Nissan i ymestyn yn sylweddol yn y Deyrnas Unedig oblygiadau cadarnhaol posib i Gymru, o ystyried bod y safle yn Sunderland yn cael tua hanner eu dur o Bort Talbot, yn hanesyddol.

“Wrth symud ymlaen, dw i eisiau gweld y fath gwmnïau a swyddi’n dod i Gymru, ond bydd hynny’n ddibynnol ar weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn newid eu hagwedd, rhai sy’n ymddangos i fod yn mynnu dechrau dadleuon cyfansoddiadol yn hytrach na denu busnesau newydd a datblygu economi Cymru.”