Mae Aelodau o’r Senedd wedi ymuno ag ymgyrchwyr i nodi dwy flynedd ers marwolaeth Christopher Kapessa, ac i ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch y teulu am gyfiawnder.

Ar Orffennaf 1, 2019, bu farw Christopher Kapessa, bachgen 13 oed, ar ôl cael ei wthio i afon Cynon yn Aberpennar.

Cafodd ei farwolaeth ei disgrifio fel damwain gan Heddlu’r De yn wreiddiol.

Er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyfaddef bod digon o dystiolaeth i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad, penderfynodd y gwasanaeth i beidio ag erlyn.

Mae’r ymgyrch er mwyn cael cyfiawnder i Christopher Kapessa yn galw am wyrdroi’r penderfyniad hwnnw, ac mae’r teulu wedi cael caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol.

Fe wnaeth Aelodau Plaid Cymru a Llafur o’r Senedd ymuno ag ymgyrchwyr y tu allan i’r Senedd heddiw (dydd Iau, Gorffenaf 1) er mwyn cydsefyll â’r teulu ac i alw ar Wasanaeth Erlyn y Goron i wyrdroi eu penderfyniad.

“Carreg filltir gywilyddus”

“Mae’r diwrnod hwn, ddwy flynedd ers marwolaeth Christopher, yn amlwg yn adeg anodd iawn i’w deulu a’i anwyliad,” meddai Shavanah Taj, un o gefnogwyr yr ymgyrch ac Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ac mae hi’n garreg filltir gywilyddus i system gyfiawnder sydd wedi methu â rhoi’r cyfiawnder mae Christopher yn ei haeddu.

“Dod â’r achos o flaen llys a rheithgor fyddai’r ffordd orau o wasanaethu’r hyn sydd er lles y cyhoedd.

“Fel mudiad undeb lafur Gymreig, byddwn ni’n parhau i gefnogi teulu Christopher, a’u hymgyrch, nes y bydd cyfiawnder.

“Mae’n gadarnhaol gweld cefnogaeth mor gryf i’r ymgyrch gan ein cynrychiolwyr yn y Senedd.

“Ond mae ganddyn nhw rôl i’w chwarae hefyd drwy gyflwyno Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol cryf ac effeithiol, a helpu i adeiladu Cymru wrth-hiliol.”

Mam Christopher Kapessa yn beirniadu’r penderfyniad i beidio â dwyn achos yn dilyn ei farwolaeth

Bu farw’r bachgen 13 oed ar ôl cael ei wthio i afon Cynon fis Gorffennaf y llynedd