Bydd y Cytundeb Amaethyddol gydag Awstralia yn effeithio’n “anghymesur” ar Gymru a’r Alban, yn ôl Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Defaid.
Cafodd y sylwadau eu gwneud gan Phil Stocker yn ystod cyfarfod arbennig gan Gomisiwn Masnach a Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 1).
Bwriad y sesiwn oedd clywed gan arbenigwyr ym myd amaeth ac arbenigwyr masnach ynghylch y cytundeb, gan ganolbwyntio ar effeithiau posib ar gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig, a pha opsiynau eraill oedd gan y Deyrnas Unedig wrth ffurfio cytundebau wedi Brexit.
Mae pryderon eisoes wedi’u codi ynghylch safon y cynnyrch fydd yn cyrraedd marchnad y Deyrnas Unedig o Awstralia, a’r peryg na fydd ffermwyr y Deyrnas Unedig yn gallu cystadlu â’r prisiau.
Er hynny, mae Downing Street wedi dweud y bydd y cytundeb yn cadw at y safonau uchaf posib, ac y bydd digon o gyfleoedd i ffermwyr, a chynhyrchwyr, werthu eu cynnyrch ar y farchnad yn sgil y cytundeb.
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth Liz Saville-Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, holi sut effaith fyddai’r cytundeb yn ei chael ar Gymru a’r Alban yn benodol, o ystyried maint y diwydiant yn y gwledydd hynny.
“Effeithio yn anghymesur”
“Yr ateb yw ei fod e am effeithio mwy ar ffermwyr yng Nghymru, a’r Alban, nag yn Lloegr oherwydd bod amaeth yn rhan mwy o lawer o’u heconomi,” meddai Phil Stocker.
“Rydyn ni’n gwybod fod cyfran fwy o GPD Cymru yn dod o amaeth, a bwyd, na Lloegr. Bydd ei effaith ar farchnadoedd bwyd ac amaeth yn effeithio ar bobl yng Nghymru.
“Mae hi hefyd yn bwysig nodi, yng Nghymru a’r Alban, mae’r ardal sy’n dir ALFf (Ardal Lai Ffafriol) o gymharu â thiroedd amaethyddol eraill yn dipyn mwy.
“Mae’r cyfyngiadau ar ddefnyddio’r tir hwnnw yn fwy nag mewn tiroedd sydd ddim yn ALFf, felly bydd cyfran fawr o’r tir yng Nghymru a Lloegr yn wair, gyda ychydig o opsiynau eraill [ar gyfer ei ddefnydd].
“Eto’r ffordd glyfar o ddefnyddio’r tir hwnnw fyddai mewn ffordd amlbwrpas – i gynhyrchu protein o ansawdd uchel er mwyn bwydo ein hunain, ynghyd â dal carbon a [chynnal] natur a’r dirwedd.
“Bydd effaith y cytundeb yn effeithio yn anghymesur, dw i’n meddwl, ar Gymru a’r Alban yn fwy.”
“Cryn dipyn mwy dinistriol”
Ategodd Séan Rickard, cyn-Brif Economegydd NFU, y pwynt gan bwysleisio bod amaethyddiaeth yn gyfran uwch o economïau Cymru a’r Alban.
“Ac o fewn y diwydiannau hynny, mae cig eidion a defaid yn gyfran dipyn uwch nag yn Lloegr,” meddai Séan Rickard.
“Felly’r ateb yn syml, os yw’r cytundeb yn ddinistriol i amaeth y Deyrnas Unedig, mae e gryn dipyn mwy dinistriol i amaeth Cymru a’r Alban.”
“Bradychu”
Ychwanegodd Phil Stocker, nad oes fawr ddim o drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda ffermwyr.
Mae’r rhan fwyaf o’r ymdrechion i’n cynnwys ni mewn grwpiau cynghori wedi bod “yn debycach i grwpiau gwybodaeth”, meddai.
“Does dim o’r cyngor dw i wedi’i roi wedi cael ei ystyried.
“Mae’r rhan fwyaf yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu bradychu.”